04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llwyddiannau mawr i Geredigion yn Gwobrau Cymraeg Gwaith Cenedlaethol

DATHLODD Cynllun Cymraeg Gwaith Cyngor Sir Ceredigion 3 llwyddiant yn y Gwobrau Cymraeg Gwaith Cenedlaethol ym Mis Ebrill eleni.

Enillodd Mariolina Lai, sy’n Gynorthwyydd Gofal Dydd ym Min-y-Môr, y wobr am y ‘Dysgwr sydd wedi gwneud y cynnydd gorau ar lefelau Sylfaen+’. Daeth Alison Newby, sy’n Diwtor Rhifyddeg, Llythrennedd a Threfniadaeth Busnes, yn ail am y wobr ‘Dysgwr lefel Sylfaen+ sy’n gwneud y Defnydd Gorau o’r Gymraeg at bwrpas Gwaith’. Daeth Dewi Huw Owen, Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith y Cyngor, yn ail am y wobr ‘Tiwtor Cymraeg Gwaith y Flwyddyn’.

Mae Mariolina Lai wedi bod yn dysgu Cymraeg drwy Gynllun Cymraeg Gwaith Cyngor Ceredigion ers 2018. Mae hi bellach ar lefel Canolradd ac yn parhau i wneud cynnydd arbennig. Daw Mariolina o’r Eidal yn wreiddiol, ac allan o gariad a pharch at y diwylliant Cymraeg, fe dyngodd lw ei dinasyddiaeth Brydeinig drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae astudio’r Gymraeg yn llawenydd i Mariolina. O’r wers gyntaf, ymhyfrydodd yn yr iaith, a daw i bob gwers yn frwdfrydig gan godi hwyliau’r dosbarth yn wythnosol. Mae Mariolina hefyd yn cymryd mantais o weithgareddau anffurfiol y Cynllun, megis y Clwb Cinio. A hithau’n Gynorthwyydd Gofal Dydd, mae llwyddiannau Mariolina i ddysgu’r Gymraeg yn bellgyrhaeddol eu dylanwad, ac mae’n sicrhau gofal o’r safon flaenaf i drigolion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith wedi galluogi Mariolina i wireddu ei huchelgais o fyw a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Wrth dderbyn y wobr dywedodd Mariolina:

“Dwi wedi bod yn astudio Cymraeg ar Gynllun Cymraeg Gwaith Ceredigion ers tair blynedd nawr o dan arweiniad hyfryd fy nhiwtor Huw Owen. Pan ces i’r newyddion mod i wedi ennill ces i sioc fawr! Dwi’n hapus dros ben ac yn falch iawn hefyd. Mae’n anrhydedd fawr achos bod Cymraeg yn iaith mor hyfryd. Diolch o galon i Huw, ac i fy nghydweithwyr yn fy ngweithle, yn enwedig Rhian, a helpodd fi i adolygu, i ailadrodd, ac i gyfansoddi yn yr iaith. Diolch hefyd i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, achos mae hi’n bwysig i hybu ac amddiffyn iaith mor ffantastig.”

Mae Alison Newby yn mynychu gwersi lefel Uwch drwy’r Cynllun Cymraeg Gwaith. A hithau’n Diwtor Rhifyddeg, Llythrennedd a Threfniadaeth Busnes gall bellach yn ddarparu adroddiadau arsylwi dwyieithog a chynnig adborth yn Gymraeg i’w dysgwyr. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar sicrhau bod pob un o’i chyflwyniadau yn ddwyieithog, gyda phwyslais ar dermau Cymraeg allweddol. Mae Alison yn Bencampwr Cymraeg Hyfforddiant Ceredigion; hi ysgrifennodd eu Cynllun Gweithredu Cymraeg, ac mae wedi arwain ar y gwaith o ddatblygu adnoddau anwytho a llunio archwiliadau o’r ganolfan a’u dogfennau allweddol yn unol â Safonau’r Gymraeg.

Mae Huw Owen wedi bod yn Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith yng Nghyngor Sir Ceredigion ers tair blynedd. Ar hyn o bryd mae Huw yn addysgu 73 o weithwyr mewn saith dosbarth ar bum lefel. Mae’n cynnal rhaglen dysgu anffurfiol i gefnogi’r dysgu ffurfiol, gan gynnwys Clwb Cinio wythnosol sy’n cynnig gweithgareddau sgwrsio yn seiliedig ar ddysgu’r wythnos ar bob lefel. Yn ychwanegol, mae’n trefnu cwisiau, cystadlaethau, gweithdai, gigiau cerddorol a siaradwyr gwadd. Mae dysgwyr Huw wedi clodfori’r modd y trosodd y dysgu i wersi rhithiol dros nos yn sgil pandemig Covid-19 gan barhau i ysgogi’r dysgwyr. Yn ôl y llu o enwebiadau gan ddysgwyr, mae’n diwtor brwdfrydig, amyneddgar, ymroddgar, sylwgar, cyfeillgar a chefnogol iawn. Mae hefyd yn sicrhau bo’r dysgu yn hwyl, ac yn llwyddo i sicrhau bod pob gwers yn ddiddorol.

Wrth ymateb i lwyddiannau’r Cyngor yn y Gwobrau, dywedodd Arweinydd y Cyngor Ellen ap Gwynn:

“Roedd yn hyfryd clywed am lwyddiant Huw, Mariolina ac Alison yn y gwobrau Cymraeg Gwaith a gynhelir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau gwresocaf iddynt ill tri ar eu llwyddiant. Dyma’r drydedd flwyddyn i Gyngor Sir Ceredigion fod yn rhan o gynllun Cymraeg Gwaith ac mae’n bleser gweld bod mwy a mwy o’n staff yn cymryd y cyfle a gynigir iddynt i wella eu sgiliau iaith fel ein bod fel Cyngor yn tyfu galluoedd a hyder ein staff i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Gan dynnu maeth o ysbrydoliaeth y gwobrau hyn bydd y Cynllun Cymraeg Gwaith yn dechrau ei phedwaredd blwyddyn ym mis Medi. Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau yn nhîm Dysgu a Datblygu’r Cyngor i gynllunio cyrsiau arloesol a chyfleoedd dysgu anffurfiol cyffrous a fydd yn helpu’r staff i gymryd y camau nesaf yn eu taith iaith.

%d bloggers like this: