10/13/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llyfrgelloedd yn ailagor wrth i gyfyngiadau symud gael eu llacio

MAE llyfrgelloedd y ddinas, gweithgareddau awyr agored ParkLives i bobl ifanc a phatrolau traeth yr RNLI wedi ailagor wrth i gyfyngiadau symud barhau i gael eu llacio.

Mae gwasanaethau llyfrgell y cyngor wedi bod yn gweithredu gwasanaeth clicio a chasglu llwyddiannus iawn ar gyfer pobl sy’n dwlu ar lyfrau ers iddynt gau ym mis Rhagfyr fel rhan o fesurau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â COVID-19.

Byddant yn ailagor eto o ddydd Llun, 29 Mawrth yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (dydd Gwener) am lacio rhagor o gyfyngiadau.

Yn ogystal â hyn, bydd patrolau traethau’r RNLI, a ariennir gan y cyngor, yn ailddechrau yfory (27 Mawrth) ar gyfer gwyliau’r Pasg ar draethau prysur Langland a Bae Caswell.

Bydd ParkLives, menter blaengar y cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc hefyd yn darparu gweithgareddau diogel, wrth gadw pellter cymdeithasol mewn nifer o barciau dros wyliau Pasg yr ysgol sydd ar ddod.

Dywedodd Tracey McNulty, pennaeth gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau diwylliannol y bydd yr holl wasanaethau a gynigir yn cadw at gyfyngiadau parhaus COVID-19.

Meddai:

“Mae’r cyngor am annog pobl i fwynhau gweithgareddau a ganiateir bellach yn dilyn llacio cyfyngiadau mewn modd diogel. Os ydych yn ymweld â llyfrgell, bydd angen i chi wisgo mwgwd y tu mewn, cadw’ch pellter oddi wrth bobl eraill a gwrando ar gyngor ein staff sydd yno i gadw pawb yn ddiogel.

“Bydd angen i unrhyw un sydd am ymuno â’n gweithgareddau ParkLives gadw lle ymlaen llaw fel y gall ein timau reoli niferoedd yn ddiogel.”

Ychwanegodd Tracey McNulty:

“Mae traethau Gŵyr yn gyrchfannau prysur dros y Pasg, a dyna pam y mae’r RNLI yn gweithio gyda ni i ailgyflwyno patrolau traeth ar ddau o’n traethau mwyaf poblogaidd dros gyfnod y gwyliau.

“Bydd angen i ymwelwyr ddilyn y cyfyngiadau sy’n parhau i fod ar waith o hyd, trwy gadw’u pellter oddi wrth bobl eraill a gwisgo mwgwd dan do.

“Byddem hefyd yn annog pobl i fynd â’u sbwriel adref gyda nhw yn hytrach na’i adael i bobl eraill ei lanhau, yn enwedig os bydd y biniau’n llawn.”

 

%d bloggers like this: