04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ballot box - Wales vote

Llywodraeth Cymru cynnig cynlluniau peilot ar gofrestru etholwyr yn awtomatig

MAE Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion i gynyddu nifer y bobl sy’n pleidleisio mewn etholiadau, gan gynnwys cynlluniau peilot ar gofrestru etholwyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, mai nod y cynigion yw cael gwared ar rwystrau rhag pleidleisio.

Mae’n cyd-fynd â dechrau’r ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth newydd i foderneiddio prosesau gweinyddu etholiadol a diwygio etholiadol ehangach.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bobl gofrestru i bleidleisio, ond o dan y cynigion newydd, byddai unrhyw unigolyn sy’n gymwys i bleidleisio yn cael ei ychwanegu at y gofrestr etholiadol yn awtomatig gan ei awdurdod lleol. O ganlyniad, bydd pleidleisio’n symlach – yn arbennig i bobl ifanc ac i bobl sydd wedi symud i fyw yng Nghymru o wlad arall.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol i gynnal cyfres o gynlluniau peilot yn canolbwyntio ar y ffordd orau o gasglu data a defnyddio’r data sydd eisoes ganddynt i gefnogi’r gwaith o gofrestru etholwyr yn awtomatig. Bydd yn gwahodd awdurdodau lleol i gymryd rhan mewn prosiectau peilot.

Mae hefyd yn ceisio barn pobl ar y ffordd orau o gynyddu nifer y myfyrwyr a’r bobl ifanc sy’n cofrestru – pobl sydd, yn ôl eu cyfran, â chyfraddau cofrestru a chyfranogi is.

Ymhlith y meysydd eraill sy’n cael eu hystyried y mae pa mor hawdd yw cael gwybodaeth am bleidiau ac ymgeiswyr, yr offer sydd ar gael i helpu pobl anabl i bleidleisio, a digideiddio etholiadau yng Nghymru.

Merddai Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Mae hwn yn gam arall tuag at sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru. Rydym am sicrhau bod bwrw pleidlais mor hawdd â phosibl, a bod pobl yn cael cyfle i chwarae rhan lawn yn ein democratiaeth. Rydym hefyd yn awyddus i greu strwythurau gwleidyddol sy’n cynrychioli’r bobl y maent yn eu gwasanaethu’n well.

Rwy’n falch o ddweud, ers inni gymryd cyfrifoldeb am etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd yn 2017, ein bod wedi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ac wedi rhoi’r hawl i bleidleisio i wladolion tramor sy’n gymwys. Fel rhan o’r gwaith o adeiladu system etholiadol i’r 21ain ganrif, mae’n amser nawr i gyflymu ein gweledigaeth hirdymor uchelgeisiol ar gyfer diwygio etholiadol cyn yr etholiadau datganoledig a’r etholiadau lleol mawr nesaf yn 2026 a 2027.

Rydym wedi amlinellu amrywiaeth eang o gynigion ynghylch y ffordd orau ymlaen, ac rydym yn annog pobl o bob rhan o gymdeithas i ddweud eu dweud a’n helpu i wireddu ein gweledigaeth.”

%d bloggers like this: