04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llywodraeth Cymru i archwilio cwestiwn diwygio’r flwyddyn ysgol

MEW datganiad ysgrifenedig mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Senedd am hynt y gwaith o ran archwilio’r cwestiwn diwygio’r flwyddyn ysgol a nodi’r camau nesaf.

Meddai Mr Miles:

“Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i archwilio strwythur y flwyddyn ysgol i weld a allwn gefnogi lles dysgwyr a staff yn well, mynd i’r afael ag anfantais ac anghydraddoldebau addysgol, a sicrhau ei bod yn cyd-fynd yn well â phatrymau bywyd teuluol a chyflogaeth fodern nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r Rhaglen Lywodraethu a’r ymrwymiadau yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Fel rhan o raglen ehangach i gasglu tystiolaeth ac ennyn diddordeb, ddiwedd y llynedd comisiynwyd Beaufort Research gennym i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ymchwil. Mae’r gwaith hwn wedi ein helpu i ddeall safbwyntiau pobl, awydd posibl am unrhyw newid a goblygiadau gwahanol fathau o ddiwygio, er enghraifft lleihau hyd gwyliau’r haf ac ymestyn gwyliau ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn.

Roedd y gweithgaredd hwn yn gymysgedd o ymgysylltu ansoddol a meintiol. Roedd yn cynnwys grwpiau ffocws ar-lein gyda rhieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc a’r gweithlu addysg, arolygon ar-lein, a digwyddiadau ymgysylltu wedi’u hanelu at randdeiliaid ehangach fel byd busnes, twristiaeth, gofal plant a llywodraeth leol, yn ogystal â chynnal cyfweliadau manwl gydag amrywiaeth o randdeiliaid a oedd yn cynrychioli meysydd penodol.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad Beaufort Research Agweddau at ddiwygio’r flwyddyn ysgol yng Nghymru: canfyddiadau ymchwil ac ymgysylltu‘. Rydw i am ddiolch i Beaufort Research a’u partneriaid yn Cazbah am ymgymryd â’r gwaith hwn. Rydw i hefyd yn hynod ddiolchgar i’r 13,000 o randdeiliaid, unigolion a sefydliadau a gymerodd ran.

Mae’n amlwg o’r adroddiad hwn, o’i drafod yn fanwl, fod parodrwydd i edrych ar ffyrdd amgen o strwythuro’r flwyddyn ysgol, yn enwedig o ran sut yr ydym yn cefnogi dysgwyr yn well dros yr haf ac yn sicrhau mwy o gysondeb o ran hyd tymhorau – yn benodol tymor hir yr hydref sydd gennym ar hyn o bryd – i gyd-fynd yn well â phatrymau gwaith a theuluol modern, a mynd i’r afael ag anfantais a’r bwlch cyrhaeddiad.

Rydw i hefyd yn cydnabod, er bod cryn fodlonrwydd â’r flwyddyn ysgol bresennol ar hyn o bryd, ar ôl trafod a dangos modelau blwyddyn ysgol gwahanol posibl, roedd y rhan fwyaf o’r gweithlu addysg a thua hanner y dysgwyr wedi dewis model amgen.

Felly, ac yn unol ag ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu a’n Cytundeb Cydweithio, rydw i wedi gofyn i swyddogion ddatblygu opsiynau i gyflwyno ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Yn ein gwaith archwilio hyd yma, rydym wedi mynd ati’n fwriadol i edrych ar ystod o opsiynau, modelau ac egwyddorion ar gyfer newid, a hynny er mwyn profi gwahanol strwythurau ar gyfer y flwyddyn ysgol, a chasglu’r amrywiaeth ehangaf o safbwyntiau gan ddysgwyr, staff, teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Mae’r adroddiad a safbwyntiau cychwynnol rhanddeiliaid wedi bod yn hynod fuddiol o ran sianelu ein ffocws wrth inni ddatblygu opsiynau ar gyfer yr ymgynghoriad. Er fy mod yn glir nad oes dadl dros newid faint o wyliau a ganiateir, na thros gwtogi gwyliau’r haf i ddwy neu dair wythnos, rydw i’n falch bod yr ymchwil a gyhoeddwyd heddiw yn dangos parodrwydd i edrych ar ddosbarthiad cyffredinol gwyliau drwy gydol y flwyddyn, a thymhorau mwy cyson o ran eu hyd.

Wrth i ni symud ymlaen gyda’n cwricwlwm newydd, cefnogi ein gweithlu addysg, a chreu mwy o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â rhieni a’r gymuned, rhaid i’r ffordd rydym yn cynllunio ein blwyddyn ysgol fod yn rhan o’r sgwrs hon. Credaf y gall archwilio opsiynau ar gyfer newid ein galluogi i gefnogi’r gwaith o gynllunio a darparu’r cwricwlwm, mynd i’r afael ag anfantais ac anghydraddoldebau addysgol, a chefnogi lles dysgwyr a staff. Mae gennym gyfle nawr i archwilio’r materion hyn yng nghyd-destun y cwestiwn ai’r strwythur presennol mewn gwirionedd yw’r system orau i gyflawni’r blaenoriaethau rydym yn eu rhannu.

Dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod, felly, byddwn yn parhau i gasglu tystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn enwedig dysgwyr a’r gweithlu addysg, i sicrhau dull cydweithredol o gynllunio unrhyw bolisi newydd. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r aelodau yn yr hydref.”

 

%d bloggers like this: