04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llywodraeth Cymru methu cymeradwyo dull Llywodraeth y DU ar Cronfa Ffyniant Gyffredin

MAE Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi wedi egluro safiad Llywodraeth Cymru ar brosbectws Cronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU.

Yn benodol “nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu cymeradwyo’r dull y mae Llywodraeth y DU yn ei ddefnyddio ar gyfer y Fframwaith.”

Dywedodd y Gsweinidog:

“Ar 1 Mehefin 2022, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, i gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ar brosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Yn y llythyr hwn, mynegais ein siom mai dim ond pythefnos o drafodaethau gwirioneddol a gafodd Llywodraeth Cymru ar y mater, er inni geisio ymgysylltu â Llywodraeth y DU dros sawl blwyddyn i rannu barn ar fodel a ddatblygwyd gyda phartneriaid yng Nghymru a’r OECD ar sut y dylid gwario arian newydd yr UE yng Nghymru

Yn ystod y cyfnod byr hwn, er i ni ganfod rhywfaint o dir cyffredin, megis pwysigrwydd awdurdodau lleol yn cysoni cynlluniau buddsoddi â’n Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, ni allem gytuno, yn y pen draw, ar y canlynol:

methiant Llywodraeth y DU i anrhydeddu addewidion mynych i ddisodli, yn llawn, arian yr UE ar gyfer Cymru, gan olygu diffyg cyffredinol o dros £1.1bn (sy’n cyfrif am golli cyllid strwythurol a gwledig, a chwyddiant) erbyn mis Mawrth 2025; 

defnydd Llywodraeth y DU o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU i wneud penderfyniadau grymus mewn meysydd datganoledig ac eithrio Llywodraeth Cymru o broses dryloyw o wneud penderfyniadau ar y cyd ar gyfer y Fframwaith, tra’n osgoi proses graffu y Senedd; 

methodoleg y prosbectws ar gyfer dyraniadau ariannol i Gymru, sy’n golygu nad yw arian yn cael ei roi i’r ardaloedd hynny lle mae’r tlodi mwyaf. 

Rwyf felly wedi cadarnhau’n ysgrifenedig gyda Llywodraeth y DU nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu cymeradwyo’r dull y mae Llywodraeth y DU yn ei ddefnyddio ar gyfer y Fframwaith. Mae hyn yn golygu, fel yr ydym wedi datgan yn gyson wrth Lywodraeth y DU, na fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ein hadnoddau ein hunain i weithredu rhaglenni Llywodraeth y DU yng Nghymru sydd, yn ein barn ni, yn ddiffygiol ac yn tanseilio’r setliad datganoli.

Pwysleisiais hefyd i Lywodraeth y DU fod ein gwaith gyda’n gilydd ar borthladdoedd rhydd, dros gyfnod oedd á llai o bwysau, wedi dangos yn well yr hyn y gellir ei gyflawni drwy bartneriaeth wirioneddol. Byddem yn croesawu deialog pellach pe baent yn barod i fwrw ymlaen ar sail debyg gyda’r Fframwaith, gan gynnwys trafodaeth ar lefelau ariannu a dyraniadau, ynghyd â threfniant gwirioneddol o wneud penderfyniadau ar y cyd.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i’n partneriaid yma yng Nghymru, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn cyd-gynhyrchu ein Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol. Maent o dan bwysau sylweddol oherwydd cronfa ariannu lawer llai, amserlenni heriol, bylchau ariannu o fewn y sector, a chyd-destun ariannu ddryslyd sy’n groes i bolisi economaidd Llywodraeth Cymru. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i ystyried sut i gael y gwerth gorau o ddull ariannu llywodraeth y DU ar ôl Brexit, sy’n annigonol ac sydd ddim yn diwallu anghenion Cymru.

%d bloggers like this: