03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llywodraeth Cymru yn amlinellu egwyddorion ar gyfer system gyfiawnder ddiwygiedig

MAE Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi amlinellu elfennau craidd posibl system gyfiawnder ddatganoledig, ac wedi rhybuddio bod y system bresennol sy’n cael ei rhedeg gan San Steffan yn “cyfyngu’n sylweddol” ar fynediad at gyfiawnder.

Mae’r ddogfen a gyhoeddir heddiw gan Lywodraeth Cymru yn amlygu sut y mae polisi cyfiawnder penodol i Gymru wedi bod yn datblygu fwyfwy, yn seiliedig ar atal drwy fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu, yn hytrach na dull sy’n canolbwyntio’n fwy ar gosbi.

Yn ‘Sicrhau Cyfiawnder i Gymru’, dywed y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, mai dim ond drwy ddull ataliol, cyfannol a chynhwysol y gellir mynd i’r afael â’r rhesymau sylfaenol dros y pwysau sydd ar y system gyfiawnder.

Mae’r ddogfen yn dweud bod datganoli cyfiawnder i Gymru yn ‘anochel’, ac yn nodi elfennau craidd posibl system gyfiawnder ddatganoledig. Byddai hyn yn cynnwys:

Canolbwyntio ar atal ac adsefydlu;

Lleihau maint poblogaeth carchardai drwy fynd ar drywydd dewisiadau eraill yn lle carchar pan fo’n briodol, megis rhaglenni i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a chymorth gyda thriniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol; a hefyd

Mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau wrth ddeddfu a llunio polisïau, a mynd ati i ehangu’r gwaith o ymgorffori safonau hawliau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol mewn cyfraith ddomestig.

Mae ‘Sicrhau Cyfiawnder i Gymru’ hefyd yn nodi, wrth oruchwylio system gyfiawnder ddatganoledig, y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi’r flaenoriaeth uchaf i fynd i’r afael â’r argyfwng cenedlaethol o drais gan ddynion yn erbyn menywod, a’r lefelau syfrdanol o isel o euogfarnau am dreisio ac ymosodiadau rhywiol. Yn ddiweddarach heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi’i diweddaru, gan amlinellu beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.

Byddai’r elfennau hyn yn adeiladu’n sylweddol ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei gyflawni o fewn y cyfyngiadau cyfansoddiadol presennol. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi £22 miliwn ychwanegol y flwyddyn i ariannu 600 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i atal troseddu; darparu 13 o gyfleusterau gwrandawiadau llys o bell ledled Cymru ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; cynllun peilot Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg; a buddsoddi yn y Gronfa Gynghori Sengl sydd wedi helpu 81,000 o bobl i ennill incwm ychwanegol o £32 miliwn ac i reoli dyledion gwerth dros £10 miliwn.

Wrth gyhoeddi’r ddogfen heddiw, dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol:

“Yr unig ffordd gynaliadwy o wella’r system gyfiawnder yw lleihau nifer y bobl sy’n dod i gysylltiad â hi. Mae ein dogfen yn nodi’r ffyrdd arloesol yr ydym yn defnyddio’r pwerau sydd gennym, gan gynnwys ymyrraeth gynnar i arwain pobl oddi wrth y system cyfiawnder troseddol, a sut y byddem yn ceisio adeiladu ar hynny drwy system gyfiawnder gwbl ddatganoledig.

Ond mae polisïau llywodraethau olynol y Deyrnas Unedig ers 2010 wedi cyfyngu’n sylweddol ar fynediad at gyfiawnder, bygwth hawliau ac amddiffyniadau sylfaenol, a thorri’r cyllid hanfodol.

“Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael inni i ddilyn dull system gyfan sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer cyfiawnder. A byddwn yn edrych ymlaen at ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru fel y gallwn gyflymu’r gwaith hwn a darparu system well i ddinasyddion, cymunedau a busnesau ledled Cymru.”

Ychwanegodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Casgliad clir y Comisiwn Cyfiawnder annibynnol yn 2019 oedd bod angen i bolisïau a phenderfyniadau ynghylch cyfiawnder gael eu gwneud, a’u cyflawni, yng Nghymru, fel y gallant gael eu cysoni â’r polisïau a’r gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, cyfiawnder cymdeithasol ac addysg sy’n unigryw ac yn datblygu yng Nghymru, a chorff cynyddol cyfraith Cymru. Drwy gysylltu’r system gyfiawnder â gweddill y broses o lunio polisïau yng Nghymru gallwn wir ganfod ffyrdd effeithiol o leihau troseddu.

Mae ein gwaith ar y Glasbrintiau ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddau Menywod, a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn dangos yr hyn y gellir ei wneud ar y cyd i ddatblygu gwasanaethau wedi’u teilwra yng nghyd-destun Cymru.

Fel y mae, fodd bynnag, nid yw’r arbedion yr ydym yn eu gwneud ar gyfer llysoedd neu garchardai – er enghraifft pan fo Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn llwyddo i atal troseddu – yn cael eu hailfuddsoddi yng Nghymru. Rhaid i ddatganoli ddigwydd er mwyn gallu ailfuddsoddi’r holl arian hwn i ddiwallu anghenion brys Cymru.”

O ran cynlluniau i’r dyfodol ar gyfer diwygio cyfiawnder o fewn y cyfyngiadau presennol, cadarnhaodd y Gweinidogion y byddent yn:

Ystyried yr achos dros Fil Hawliau Dynol i Gymru;

Gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Cyfraith Cymru i wella cynaliadwyedd y sector cyfreithiol yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol; a

Creu un system unedig sy’n annibynnol yn strwythurol ar gyfer tribiwnlysoedd yng Nghymru (fel yr argymhellwyd gan adroddiad Comisiwn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2021 ar dribiwnlysoedd datganoledig)

%d bloggers like this: