04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

w

Llywodraeth Cymru yn archwilio opsiynau gweithio o bell tymor hir

GYDA mwy o bobl yn gweithio gartref yn ystod y pandemig coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru yn archwilio opsiynau ar gyfer rhwydwaith o hybiau gweithio o bell mewn trefi a chymunedau ledled Cymru.

Mae am weithio gyda sefydliadau i gefnogi symudiad tymor hir i fwy o bobl yn gweithio o bell, gyda buddion i economïau lleol, busnesau, unigolion a’r amgylchedd gan gynnwys:

gostyngiad yn yr amser teithio a’r gost; mwy o hyblygrwydd a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith; cynnydd mewn cynhyrchiant; llai o draffig, yn enwedig ar yr amseroedd prysuraf; llai o lygredd aer a sain; a hefyd y cyfle i ail-ddylunio ein trefi a chanol ein dinasoedd.

Fel rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru yn edrych i mewn i opsiynau ar gyfer rhwydwaith o hybiau gweithio o bell a hoffent weld model gweithle lle gall staff ddewis gweithio yn y swyddfa, gartref neu mewn lleoliad hwb.

Bydd hyn yn galluogi pobl i weithio’n nes at ble maent yn byw, galluogi unigolion i gydweithio yn eu cymuned leol, a darparu lle i’r rhai na allant neu sydd ddim eisiau gweithio gartref.

Fel rhan o’i hymchwil, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio map rhyngweithiol, wedi’i gynnal gan Commonplace, sy’n gofyn i bobl a hoffent weithio o bell ac sy’n eu galluogi i ollwng pin ar y map lle hoffent weld hwb yn cael ei sefydlu.

Bydd hwn yn mesur y galw am hybiau gwaith lleol, gan nodi ble mae angen iddynt fod ac a ydynt ar gael yn barod.

Am ragor o wybodaeth am y cynlluniau neu i gymryd rhan yn yr arolwg Commonplace, ewch i wefan gweithio o bell Llywodraeth Cymru (External link – Opens in a new tab or window). Mae’r arolwg hyn yn cau ar ddydd Gwener 26 Mawrth.

%d bloggers like this: