MAE Mark Drakeford Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi grant heddiw i gefnogi busnesau newydd i ddelio gydag effaith ddifrifol y Coronavirus.
Bydd y ceisiadau ar gyfer y grant hwn yn agor ar 29 Mehefin, ar yr un pryd ag y bydd cam dau y Gronfa Cadernid Economaidd yn agor ar gyfer ceisiadau.
Meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford: “Bydd cyhoeddiad heddiw yn helpu busnesau newydd yng Nghymru nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd ar gyfer y cynlluniau cymorth ariannol presennol.
“Nid yw nifer o bobl sydd wedi dechrau busnes yn y flwyddyn ddiwethaf yn gymwys ar gyfer cymorth gan Gynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig Llywodraeth y DU ac mae’n parhau’n aneglur a fydd camau yn cael eu cymryd i sicrhau y byddant yn newid y meini prawf i helpu’r grŵp yma o bobl.
“Dyma pam rydyn ni wedi gweithredu a sefydlu’r grant dechrau busnes. Daeth hyn o’n gwaith gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac mae angen i awdurdodau lleol edrych ar ba gymorth arall y mae’r gymuned fusnes ei angen ar hyn o bryd.”
Bydd y grant dechrau busnes newydd yn cefnogi hyd at 2,000 o fusnesau yng Nghymru, gyda £2,500 yr un. Bydd hyn yn cynnig cyllid hanfodol i bobl a sefydlodd eu busnesau rhwng 1 Ebrill 2019 a 1 Mawrth 2020, gan helpu iddynt barhau i fasnachu drwy gydol y pandemig.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £1.7 biliwn i gefnogi busnesau yng Nghymru, gan ei wneud y pecyn o gymorth mwyaf hael a chynwysfawr yn y DU.
Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y pecyn cynhwysfawr hwn o gymorth yn cyrraedd y rhai hynny sydd ei angen fwyaf – mae 34% o fusnesau yng Nghymru wedi elwa o gymorth coronafeirws gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, o gymharu â 14% yn Lloegr a 21% yn yr Alban.
Mae’r cymorth sydd ar gael yng Nghymru yn cynnwys dros 59,000 o grantiau ardrethi busnes sy’n werth mwy na £715 miliwn a chymorth benthyciadau Covid Banc Datblygu Cymru, sydd wedi helpu 1,000 o fentrau bach a chanolig.
I fod yn gymwys ar gyfer grant dechrau busnes, mae’n rhaid i fusnesau:
Fod heb dderbyn cyllid gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru na’r grant ardrethi annomestig;
Wedi eu sefydlu rhwng 1 Ebrill 2019 a’r 1 Mawrth 2020 a heb fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig Llywodraeth y DU;
Fod â llai na £50,000 o drosiant;
Wedi gweld gostyngiad mewn trosiant o dros 50% rhwng Ebrill a Mehefin 2020.
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais ddwy dudalen a datganiad personol gyda thystiolaeth ategol.
Caiff y grant ei weinyddu gan awdurdodau lleol a gall busnesau wirio a ydynt yn gymwys drw edrych ar wefan Busnes Cymru – https://fundchecker.businesswales.gov.wales/cy
Bydd y ceisiadau ar gyfer y grant dechrau busnes ac ail gam y Gronfa Cadernid Economaidd yn agor o’r 29 Mehefin.
Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates: “Bydd cyhoeddiad heddiw yn gwbl allweddol er mwyn cefnogi busnesau newydd, lleihau’r perygl y bydd yn rhaid i gwmnïau gau ac osgoi’r angen i ddiswyddo staff.”
“Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd eisoes wedi cefnogi miloedd o fusnesau ar draws Cymru, gan gyfrannu at becyn cymorth Llywodraeth y DU nad oedd yn ddigonol. Bydd y grant newydd yma’n ategu’r cymorth yma.
“Bydd ail gylch y Gronfa Cadernid Economaidd yn dechrau derbyn ceisiadau o ddydd Llun ymlaen, gan greu rhagor o gyfleoedd i feicrofusnesau, BBaCh a busnesau mawr gyflwyno cais am gyllid. Bydd modd cyflwyno ceisiadau am y grant ar gyfer busnesau newydd o ddydd Llun yn ogystal a hoffwn ddiolch i’r awdurdodau lleol a fydd yn gweinyddu’r cynllun hwn.
“Byddwn ni, fel llywodraeth, yn parhau i weithio’n ddiflino er mwyn ymateb i anghenion busnesau mewn cyfnod mor heriol.”
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Rebecca Evans: “Rydym wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu economi Cymru rhag effeithiau’r coronafeirws drwy gynnig y pecyn mwyaf hael o gymorth i fusnesau yn unrhyw ran o’r DU – mae’r cymorth yma’n cynrychioli 2.7% o’n Cynnyrch Domestig Gros. Nid yw ein cyllideb yn gyllideb di ben draw, fodd bynnag, ac rydym wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd.
“Dyma pam rydym yn galw ar Drysorlys y DU i godi’r cyfyngiadau llym ar hyblygrwydd cyllidol fel y gallwn ddechrau ar y broses adfer a chynllunio ar gyfer Cymru ffyniannus ar ôl y pandemig.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer yr economi: “Mae awdurdodau lleol wedi gweinyddu gwerth dros £700m o grantiau cymorth i fusnesau gan Lywodraeth Cymru. Mae’r grantiau hyn wedi helpu miloedd o fusnesau ar draws Cymru mewn cyfnod mor anodd. Rydym yn falch iawn y bydd modd i fusnesau newydd bellach gyflwyno cais am grantiau a fydd yn helpu rhai busnesau cymwys â’u llif arian, gan eu cynorthwyo i orchfygu goblygiadau economaidd yr argyfwng.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m