MAE canlyniadau ymchwil newydd sy’n dangos sut mae argyfwng y coronafeirws wedi effeithio ar bobl ledled Cymru wedi cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf heddiw.
Er bod argyfwng y coronafeirws wedi achosi ansicrwydd na welwyd mo’i debyg o’r blaen, mae’r arolwg yn dangos bod pobl Cymru yn hapus ar y cyfan a bod ganddynt ymdeimlad o ysbryd cymunedol. Fodd bynnag, yn naturiol, maent yn teimlo’n fwy pryderus nag arfer.
Dyma rai o ganlyniadau allweddol arolwg mis Mai:
93% o rieni sydd â phlentyn mewn ysgol gynradd ac 85% o rieni sydd â phlentyn mewn ysgol uwchradd yn fodlon bod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi eu plant gyda’u dysgu;
75% o bobl yn dweud eu bod yn hapus ar y cyfan, gyda 41% o bobl yn dweud eu bod wedi teimlo’n bryderus yn ystod y cyfnod;
85% o bobl yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol (+13% ers y llynedd);
Mae canlyniadau llawn yr arolwg ar gael ar dudalennau gwe yr Arolwg Cenedlaethol.
Dywedodd pedwar o bob pump o’r bobl sy’n gweithio y byddent yn cael cyflog llawn pe bai’n rhaid iddynt hunanynysu a dywedodd 44% o bobl eu bod yn gallu gwneud y rhan fwyaf o’u gwaith, neu eu gwaith i gyd, gartref.
Wrth ddiolch i’r unigolion a gymerodd ran yn yr arolwg, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:
“Mae’r arolwg hwn yn hynod o werthfawr gan ei fod yn rhoi cipolwg i ni o sut mae’r pandemig wedi effeithio ar fywydau pobl ledled Cymru. Bydd gwrando ar y safbwyntiau hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn wrth inni ddechrau ar ein taith i adferiad.
“Rydyn ni wedi wynebu heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen dros y misoedd diwethaf ac mae mwy i ddod eto wrth inni ddechrau ailgodi’n gryfach. Ond mae un peth, yn fwy na dim byd arall, wedi bod yn amlwg drwy gydol y sefyllfa, sef cadernid pobl Cymru. Rydw i eisiau diolch i bawb am y cryfder y maen nhw wedi ei ddangos a’u parodrwydd i gymryd rhan yn yr ymchwil hon.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m