12/03/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r buddsoddiad mwyaf erioed i leihau perygl llifogydd

MAE’R Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi datgelu rhaglen lifogydd fwyaf erioed Llywodraeth Cymru, gwerth rhagor na £214m dros dair blynedd.

“Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ei gwneud yn glir ein bod yn canolbwyntio ar ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd, casglu tystiolaeth i nodi datrysiadau a chyflawni canlyniadau sy’n helpu i wella gwydnwch ein cymunedau, ein heconomi a’n hamgylchedd i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn y buddsoddiad ar gyfer rheoli a lliniaru perygl llifogydd ac erydu arfordirol fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru.

Datgelodd y Gweinidog y manylion mewn cynhadledd i’r wasg heddiw ar ôl ymweliad â phrosiect £3m yn Aberafan ar gyfer cryfhau’r promenâd a diogelu cartrefi a busnesau rhag stormydd a llifogydd y dyfodol.

Dim ond un llwyddiant hyd yma yw prosiect Aberafan.  Mae gwaith newydd Llywodraeth Cymru llynedd wedi cefnogi ystod eang o waith i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i dros 950 o gartrefi a busnesau ledled Cymru – gyda 3,600 arall yn elwa ar waith i gryfhau amddiffynfeydd sydd yno eisoes.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James:

“Fel y dywed adroddiad diweddaraf yr IPCC, mae’r hinsawdd yn newid nawr ac yn effeithio eisoes ar fywyd a bywoliaeth miliynau o bobl ym mhob cwr o’r byd.

Yn ogystal â lleihau’n hallyriadau, rhaid i ni oll weithio gyda’n gilydd i addasu i hinsawdd sy’n newid.

Cwta fis yn ôl, cawsom dair storm anferth, un ar ôl y llall, yng Nghymru gyda llawer o gymunedau’n dioddef – fuodd hi erioed bwysicach i fuddsoddi i’w hamddiffyn.

Mae’n dda gen i gyhoeddi felly ein rhaglen lifogydd fwyaf erioed, fydd yn neilltuo £71 miliwn flwyddyn nesaf a £214m dros y tair blynedd nesaf.

Caiff ei defnyddio i gynnal cynlluniau mawr i leihau llifogydd, nodi anghenion lleol a datblygu prosiectau am  y dyfodol. Bydd ein cyllid hefyd yn helpu i gynllunio’n well at y dyfodol – rydyn ni’n disgwyl ymlaen at gydweithio ag Awdurdodau Rheoli Risg i’w rhoi ar waith ar fyrder ac i gefnogi pobl Cymru.”

Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd £24 miliwn yn fwy o refeniw dros y tair blynedd nesaf. Flwyddyn nesaf bydd hynny’n golygu:

cynnydd o £1.5m yng nghyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru;

cynyddu’r refeniw y caiff awdurdodau lleol wneud cais amdano hyd i £225,000 yr un; a

estyn y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol presennol i un flwyddyn derfynol.

Hefyd, cyhoeddodd y Gweinidog fap yn dangos sut y byddai cyllid rhaglenni cyfalaf yn cael ei wario ledled Cymru a’r ardaloedd a fyddai’n elwa. Bydd cyllid y flwyddyn nesaf o fudd i fwy na 14,500 o eiddo.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Mae ein Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2020, ac ymrwymiadau cysylltiedig y Rhaglen Lywodraethu, yn cadarnhau sut rydym yn camu i fyny i ymateb i her y newid yn yr hinsawdd a diogelu ein cymunedau rhag ei effeithiau.

Yn ogystal â’r strategaeth, rydyn ni wedi cyhoeddi Map Llifogydd Cymru, Cronfa Ddata o Asedau Cenedlaethol a Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Mae pob un wedi’i gynllunio i fynd i’r afael ag effeithiau’r hinsawdd.

Mae’r lefelau buddsoddi uchaf erioed rwy’n eu haddo heddiw yn adlewyrchu’r pwys y mae’r Llywodraeth hon yn ei roi ar reoli perygl llifogydd wrth i ni wella ein dealltwriaeth o’r heriau’r newid yn yr hinsawdd a gweithio gyda’n gilydd i addasu a pharatoi.”

Dywedodd yr Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Sian Gwenllïan AS:

“Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod ein cymunedau mewn perygl uwch o lifogydd. Bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth pwysig – gan helpu gyda’n hymdrechion i ddiogelu cartrefi a busnesau ledled y wlad.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld yr effaith wirioneddol a dinistriol y gall llifogydd ei chael ar fywydau pobl, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy mewn rheoli a lliniaru llifogydd dros y tair blynedd nesaf.

Yn ogystal â lleihau ein hallyriadau fel mater o frys, yn y blynyddoedd nesaf mae angen inni ymaddasu i hinsawdd sy’n newid. Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn o ganlyniad i weithio ar y cyd i wynebu’r heriau mawr sy’n cael eu peri gan yr argyfwng hinsawdd.”

%d bloggers like this: