04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llywodraeth Cymru yn ymateb i achos honedig o fwlio hiliol ym Mlaenau Gwent

MEWN datganiad ysgrifenedig mae Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg,i’r machos honedig o folio hiliol yn Mlaenau Gwent.

Medd y Gweinidog:

“Cefais fy syfrdanu a’m tristáu o glywed am y digwyddiad ym Mlaenau Gwent yr wythnos diwethaf, a arweiniodd at blentyn yn dioddef o anaf ddifrifol.

Mae’r ysgol a’r awdurdod lleol yn ymchwilio i’r digwyddiad, ac mae Heddlu Gwent yn cymryd rhan ac yn cynnal ymchwiliad. Mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad agos â’r awdurdod lleol ym Mlaenau Gwent ers yr wythnos diwethaf, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â nhw tra bo’r ymchwiliad yn parhau. Deallwn hefyd fod y plentyn a theulu’r plentyn yn cael eu cefnogi gan Heddlu Gwent.

O ganlyniad i’r digwyddiad hwn, cafodd plentyn ei anafu ac roedd arno ofn mawr am ei ddiogelwch. Bydd angen canlyniadau’r ymchwiliad gan Heddlu Gwent ac asiantaethau eraill er mwyn inni ddod i gasgliadau manwl am y digwyddiad, ac rwy’n cefnogi’r asiantaethau sy’n ymwneud â’r gwaith o ymgysylltu â’r plentyn a’i deulu.

Dylai pob un o’n lleoliadau addysg yng Nghymru fod yn amgylcheddau cynhwysol a chyfeillgar – lle mae lles pawb yn cael ei ystyried, a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn ddiogel, yn cael eu derbyn, ac yn barod i ddysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn condemnio bwlio ac aflonyddu ar unrhyw ffurf, gan gynnwys unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu hiliol.

Rydym yn disgwyl i ysgolion ymchwilio’n llawn i honiadau a digwyddiadau o fwlio a hiliaeth, ac iddynt gymryd camau priodol i fynd i’r afael â’r mater ac atal achosion pellach rhag digwydd. Mae cyfres o ganllawiau Llywodraeth Cymru, sef ‘Hawliau, parch, cydraddoldeb’ yn darparu canllawiau statudol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, ac awdurdodau lleol, i helpu i fynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu mewn lleoliadau addysg yng Nghymru, a’u hatal rhag digwydd.

Un o nodau allweddol ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol yw gwella profiadau dysgwyr ac athrawon Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn ysgolion, drwy fabwysiadu ymagwedd gynhwysol a gwrth-hiliol at addysgu a phrofiad ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod yr addysg, y cyfleoedd a’r canlyniadau i’n plant a’n pobl ifanc yng Nghymru yn deg, ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030 – sy’n cynnwys system addysg wrth-hiliol.

Fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, byddwn yn diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio statudol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru wirioneddol wrth-hiliol. Bydd y canllawiau diwygiedig ar gael ar gyfer ysgolion erbyn mis Medi 2022.

Mae’n bwysig bod ein Cwricwlwm i Gymru yn adlewyrchu gwir amrywiaeth ein poblogaeth, a bod dysgwyr yn deall sut mae’r amrywiaeth honno wedi llunio’r Gymru fodern. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau gorfodol i gynnwys addysgu hanes a phrofiadau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y cwricwlwm newydd. Wrth gefnogi plentyn i wneud cysylltiadau cryf â’i gartref a’i gymuned, a chroesawu profiadau’r gorffennol a’r presennol, dylai athrawon gefnogi dysgwyr i ddatblygu gwerthfawrogiad o’r graddau y maent yn rhan o gymuned ryngwladol ehangach, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a all eu hannog i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a mynd i’r afael â hiliaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfres o gyrsiau hyfforddiant i ysgolion, ymarferwyr a llywodraethwyr sy’n canolbwyntio ar wrth-fwlio, a ddarperir gan y Gynghrair Gwrth-fwlio a Kidscape. Byddwn yn annog pob ysgol i ymgymryd â’r hyfforddiant a’r dysgu hwn, er mwyn sicrhau y caiff pob math o achos o fwlio ac aflonyddu eu trin yn briodol.”

 

 

%d bloggers like this: