03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llywodraeth Cymru yn ymateb i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru

MAE Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 21 Ebrill).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae COVID-19 yn dal i effeithio ar amseroedd aros a lefelau staffio. Mae mesurau Atal a Rheoli Heintiau llymach yn dal i effeithio ar lefel y gweithgarwch y gall byrddau iechyd ymgymryd ag ef.

Er gwaethaf hyn, roedd gostyngiad o 10% yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 8 wythnos am brofion diagnostig o’i gymharu â mis Ionawr 2022 a gostyngiad o 30% o’i gymharu â’r adeg pan gyrhaeddodd y nifer hwn y pwynt uchaf ym mis Mai 2020. Mae’r sefyllfa wedi gwella ym mhob bwrdd iechyd.

Er bod rhai pobl yn dal i aros yn hirach am driniaeth nag yr hoffem, gyda’r nifer sy’n aros dros 36 wythnos wedi cynyddu eto ym mis Chwefror, hwn oedd y cynnydd lleiaf ond un o fis i fis ers dechrau’r pandemig. Yn ogystal â hyn, gwelwyd gostyngiad yn y niferoedd sy’n aros dros 36 wythnos mewn pum bwrdd iechyd, sy’n well na’r sefyllfa ym mis Ionawr, pan welwyd gwelliant mewn dau fwrdd iechyd yn unig.

Ym mis Chwefror 2022, roedd gostyngiad o 1% yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 52 wythnos o’i gymharu â mis Ionawr 2022.

Ym mis Chwefror, o’i gymharu â mis Ionawr 2022, roedd gostyngiad o 583 (0.3%) yn nifer y llwybrau agored sy’n aros dros 26 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf. Roedd y sefyllfa wedi gwella ym mhedwar o’r saith bwrdd iechyd ym mis Chwefror.

Mae’n anodd i wasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng ddarparu gofal yn amserol ac yn gyson – mae sawl ffactor yn gyfrifol am hyn. Ymhlith y ffactorau hynny y mae cyfraddau absenoldebau salwch uwch ac anawsterau wrth ryddhau pobl o’r ysbyty, gan olygu bod mwy o oedi wrth aros am welyau mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn y galw ac adroddodd y gwasanaethau ambiwlans brys am gynnydd o 10% yn nifer y galwadau ‘coch’, neu alwadau lle mae bywyd yn y fantol, bob dydd ym mis Mawrth o’i gymharu â mis Chwefror. Adroddwyd hefyd am 46% yn rhagor o alwadau coch ym mis Mawrth 2022 o’i gymharu â’r un mis yn 2021.

Mae cynnydd sydyn wedi bod yn nifer y bobl sy’n mynd i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Ym mis Mawrth 2022, o’i gymharu â’r un mis yn 2021, adroddwyd am gynnydd o 23% yn nifer y bobl a oedd yn ymweld â’r adrannau hyn bob dydd. Adroddwyd hefyd am gynnydd o bron i 10% mewn derbyniadau brys i’r ysbyty ym mis Mawrth o’i gymharu â mis Chwefror.

Diben y Chwe Nod Cenedlaethol ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng yw cefnogi byrddau iechyd a’u partneriaid i wella profiad, canlyniadau a gwerth, ac rydym wedi neilltuo £25m i gefnogi’r gwaith hwn.

Ym mis Chwefror, gwelwyd cynnydd o 2.5% yn nifer y bobl sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn dilyn diagnosis newydd o ganser o fis Ionawr 2022 a chynnydd o 6.5% yn nifer y cleifion sy’n dechrau eu triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod.

Yr wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi cynllun manwl i egluro sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r amseroedd aros ar gyfer y cleifion hynny y cafodd eu triniaeth ei hoedi dros dro yn sgil y pandemig.”

 

%d bloggers like this: