ERS lansio’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth, mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi cyflogau 25,000 o swyddi yn Sir Gaerfyrddin.
Cyhoeddwyd y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth gan y Canghellor, fel rhan o becyn o fesurau sy’n cefnogi busnesau y mae’r achos o goronafeirws wedi effeithio arnynt. Caiff y cynlluniau hyn eu gweithredu gan Gyllid a Thollau EM (CThEM).
Hyd at 31 Mai 2020, mae busnesau wedi rhoi 18,000 o swyddi ar ffyrlo yn Sir Gaerfyrddin ers i’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws gael ei lansio ar 20 Ebrill 2020. Mae hyn er mwyn helpu cyflogwyr y DU, y mae coronafeirws wedi effeithio’n ddifrifol arnynt, i gadw eu cyflogeion a diogelu economi’r DU.
Cyhoeddwyd ar 12 Mai 2020 y byddai’r cynllun yn rhedeg tan ddiwedd mis Hydref, er mwyn parhau â’r cymorth ar gyfer swyddi a busnesau, wrth i bobl ddychwelyd i’w gwaith.
Cyflwynwyd y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth ym mis Mai – yn gynt na’r disgwyl – ac yn Sir Gaerfyrddin hyd at 31 Mai 2020, mae’r cynllun wedi rhoi cymorth ariannol i 7,000 o unigolion hunangyflogedig y mae’r achos o goronafeirws wedi effeithio’n andwyol arnynt, ac wedi talu cyfanswm o £17,500,000 o grantiau.
Ar 29 Mai 2020, cyhoeddodd y Canghellor estyniad i’r cynllun hwn. Bydd y sawl sy’n gymwys ar gyfer grant y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth yn gallu hawlio ail grant ym mis Awst, sef grant terfynol sydd hyd at £6,750.
Meddai Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:
“Mae Llywodraeth y DU yn gwneud popeth a allwn i ddiogelu swyddi a busnesau yng Nghymru ac ar draws y DU yn ystod yr argyfwng. Mae ein cynlluniau digyffelyb ar gyfer cadw swyddi a rhoi cymhorthdal hunangyflogaeth wedi cefnogi bywoliaeth miliynau, a byddant yn helpu i sicrhau bod ein hadferiad mor gyflym â phosibl.”
Meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai’n gwneud pob dim yn ei gallu i gefnogi pobl a busnesau yng Nghymru drwy’r pandemig, ac rydym wedi creu pecyn digyffelyb o fesurau i gyflawni’r addewid hwnnw.
“Hyd yma, mae 316,500 o swyddi yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, tra bo £273m wedi’i roi i gefnogi 102,000 o bobl hunangyflogedig. Mae pobl a busnesau yng Nghymru hefyd wedi elwa ar gynlluniau ledled y DU, megis gohirio TAW, benthyciadau i gwmnïau a Chredyd Cynhwysol, tra bo Llywodraeth Cymru wedi derbyn £2.2 biliwn ychwanegol mewn cyllid uniongyrchol ar gyfer coronafeirws.
“Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd i gyflogwyr a gweithwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod economi Cymru yn barod i adfer yn dilyn y pandemig.
CJRS (y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws) |
Nifer y cyflogaethau ar ffyrlo |
|
Cymru |
316,500 |
|
Abertawe Blaenau Gwent Bro Morgannwg Caerdydd Caerffili Casnewydd Castell-nedd Port Talbot Ceredigion Conwy Gwynedd Merthyr Tudful Pen-y-bont ar Ogwr Powys Rhondda Cynon Taf Sir Benfro Sir Ddinbych Sir Fynwy Sir Gaerfyrddin Sir y Fflint Torfaen Wrecsam Ynys Môn |
23,000 6,600 13,200 36,000 17,900 16,600 12,700 6,500 13,200 13,300 6,000 15,300 13,100 23,400 12,900 9,800 9,100 18,000 18,800 9,900 15,100 6,400 |
|
SEISS (Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth) |
Nifer yr hawliadau a wnaed |
Gwerth mewn £ yr hawliadau a wnaed |
Cymru |
102,000 |
273,000,000 |
Abertawe Blaenau Gwent Bro Morgannwg Caerdydd Caerffili Casnewydd Castell-nedd Port Talbot Ceredigion Conwy Gwynedd Merthyr Tudful Pen-y-bont ar Ogwr Powys Rhondda Cynon Taf Sir Benfro Sir Ddinbych Sir Fynwy Sir Gaerfyrddin Sir y Fflint Torfaen Wrecsam Ynys Môn |
5,800 1,800 4,000 9,900 4,800 3,900 3,400 3,800 4,600 5,700 1,700 3,700 8,100 7,700 5,700 3,400 3,400 7,000 4,500 2,500 4,000 2,700 |
15,100,000 4,600,000 11,300,000 26,500,000 12,900,000 10,300,000 8,900,000 9,500,000 12,300,000 15,500,000 4,700,000 9,900,000 22,400,000 21,800,000 14,100,000 9,300,000 9,400,000 17,500,000 12,300,000 6,800,000 11,100,000 7,000,000Llywodraeth y DU yn cefnogi cyflogau 25,000 o swyddi ar draws Sir Gâr |
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m