03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mae amser cyffrous ar y gorwel i bedwaredd genhedlaeth fferm deuluol ym Medwas – diolch i drefniadau cynllunio ar gyfer olyniaeth a menter glampio newydd

MAE menter pod ‘glampio’ newydd wedi helpu i sicrhau dyfodol fferm ucheldir 200 erw yn Ne Cymru, a fydd yn cael ei chadw yn y teulu ar gyfer y bedwaredd genhedlaeth nawr.

Pan fu farw gŵr Linda Davies o ganser yn ôl yn 2011, bu’n gyfnod enbyd iddi hi ac i’w phlant a oedd yn eu harddegau ar y pryd, wrth iddynt ddygymod â’u colled.

“Nid oeddwn yn gwybod a fyddai modd i ni barhau i fyw yn ffermdy y teulu, a oedd yn golygu cymaint i ni gyd, ac ymdopi gyda rhedeg y fferm ar fy mhen fy hun, a oedd yn cynnwys defaid a busnes stablau hurio ceffylau.”

Lleolir Fferm Tŷ Isaf gerllaw mynydd Caerffili. Er ei bod yn ymddangos ei bod mewn man anghysbell ac mae’n mwynhau golygfeydd ysblennydd am filltiroedd, mae’n agos iawn i’r M4 a’r A470. Roedd Tŷ Isaf wedi bod yn nheulu John er dechrau’r 1900au, a’i ddymuniad ef y dylid cadw’r daliad hanesyddol ar gyfer y genhedlaeth nesaf oedd y rheswm dros ei benderfyniad i roi’r gorau i’w alwedigaeth fel peiriannydd sifil dros 40 mlynedd yn ôl, gan ddod yn ffermwr llawn amser.

Roedd John wastad wedi bwriadu ymddeol pan fyddai’n 65 oed, a thua 15 mlynedd yn ôl, penderfynodd John osod hanner yr erwau i gymydog a ffrind, a oedd angen tir pori arno ar gyfer ei fuches o wartheg Duon Cymreig, ac ar yr un pryd, lleihaodd faint y ddiadell ddefaid o 2,000 o famogiaid croes Suffolk a Mynydd Cymreig i tua 80. Mae’r trefniant gosod gwreiddiol mewn grym o hyd gyda’r cymydog, sydd hefyd yn rheoli’r gwaith o ofalu am y defaid o ddydd i ddydd ar ran Linda. Rheolir y busnes stablau hurio sy’n ffynnu gan reolwr marchogol, ac mae wedi dod yn ffrind gwerthfawr hefyd.

Erbyn heddiw, ac mae’n siŵr bod hynny’n rhannol o ganlyniad i ysbryd dewr a chadarn Linda, ei dau o blant, Lydia sydd bellach yn 31 oed, ac Ed sy’n 28 oed, yw’r bedwaredd genhedlaeth sy’n gysylltiedig â Thŷ Isaf. Mae’r ddau yr un mor benderfynol o anrhydeddu dymuniad eu diweddar dad y byddai’r fferm wastad yn cael ei chadw o fewn y teulu. Mae Lydia ac Ed yn raddedigion sydd wedi mapio eu gyrfaoedd eu hunain, gan nad oedd yr un ohonynt yn dymuno ymrwymo i fod yn ffermwyr llawn amser. Mae Lydia, sy’n farchoges frwd, yn arbenigwr ym maes TG ac yn gweithio i gwmni cyhoeddi blaenllaw, ac mae Ed yn gweithio ar PhD wedi’i noddi ynghylch teithio ar y rheilffyrdd yn y DU.

Mae Lydia ac Ed wrth eu bodd yn byw bywyd gwledig ac mae eu mam yn dweud eu bod wedi treulio sawl awr yn trafod y dewisiadau am fenter arallgyfeirio gynaliadwy newydd a fyddai’n sicrhau eu cyswllt parhaus gyda’r fferm, ac a fyddai’n cynnig y rhyddid a’r amser iddynt ganlyn eu gyrfaoedd eu hunain ar yr un pryd hefyd.

Yn 2018, mynychodd y teulu weithdy ynghylch cynllunio ar gyfer olyniaeth a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio, a dilynwyd hyn gan gymhorthfa marchnata ac arallgyfeirio, yna gweithdy proses gynllunio. Y rhain oedd y camau hollbwysig cyntaf mewn proses sydd wedi eu harwain i’r man lle y maent heddiw, ac mae Lydia ac Ed bellach yn gyd-berchnogion menter pod ‘glampio’ ecogyfeillgar newydd sy’n enghraifft o weithgarwch arallgyfeirio.

“Rhoddodd y digwyddiadau hynny wybodaeth i ni am yr holl faterion yr oedd angen i ni eu hystyried, ond roedd ein swyddog datblygu Cyswllt Ffermio, Hannah Wright, wedi ein cyfeirio at y gwasanaethau amrywiol y byddent yn ein helpu hefyd,” meddai Ed. Roedd hyn yn cynnwys manteisio ar gyngor cymorthdaledig Cyswllt Ffermio ynghylch cynllunio busnes a gwneud cais am hyfforddiant a oedd yn amrywio o gyrsiau busnes a rheolaeth ariannol i yrru tractorau.

“Yn bwysicaf oll, yn gynnar yn ystod y broses, fe wnaethom ni ymgeisio am gyngor mentora un-i-un wedi’i ariannu’n llawn ynghylch cynllunio ar gyfer olyniaeth, a hyn sydd i gyfrif am y rheswm bod Lydia ac Ed bellach yn gyd-berchnogion balch menter pod glampio newydd, a groesawodd ei ymwelwyr cyntaf ar ddiwedd y cyfnod clo y mis hwn,” dywedodd eu mam Linda.

Yn gynnar yn 2019, aeth Siân Bushell o Sir Benfro, un o fentoriaid cymeradwy Cyswllt Ffermio ym maes cynllunio ar gyfer olyniaeth, ati i hwyluso cyfarfod teuluol, a oedd wedi dwyn y teulu ynghyd i drafod eu dymuniadau mewn ffordd onest. Yn ogystal, roedd Siân wedi eu tywys trwy’r broses o lunio eu cynllun gweithredu eu hunain, a oedd yn nodi’r union beth yr oedd angen iddynt ei wneud o ran ariannu a rheoli’r fenter, a phennwyd eu rolau a’u hamserlenni mewn ffordd glir.

“Cawsom ddau gyfarfod gyda Siân, ac mae ei chymorth a’i harweiniad hi, a ariannwyd yn llawn, wedi bod yn hollbwysig i’r llwyddiant yr ydym bellach wedi’i sicrhau fel teulu,” dywedodd Linda.

Mae Siân yn esbonio ei bod o fudd mawr ‘cychwyn y sgwrs’ er mwyn diogelu dyfodol fferm deuluol cyn y bydd gofyn gwneud hynny ar fyrder, a fydd yn aml yn digwydd pan fydd rhywun yn dymuno camu’n ôl o’r busnes neu pan fydd angen iddynt wneud hynny, neu pan fydd salwch yn taro.

“Fy rôl i yw annog trafodaeth agored am yr holl faterion perthnasol, grymuso pob unigolyn yn y teulu i wneud eu penderfyniadau eu hunain a’u helpu i ddarganfod eu datrysiadau eu hunain.

“Nid yw pob teulu yn teimlo’n barod i annog y genhedlaeth nesaf i gymryd yr awenau, i ymgymryd â’r cyfrifoldeb neu i greu eu menter newydd eu hunain, felly mae angen cytuno ar gynllun gweithredu realistig sy’n cynnwys amserlenni, fel bod pawb yn ymwybodol o’r hyn y maent yn gweithio tuag ato,” dywedodd Siân, sydd wedi gweithio gyda dros 90 o deuluoedd sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio er mwyn eu helpu i ddelio â’r mater sensitif hwn.

Bydd Lydia yn delio â’r holl archebion gan ymwelwyr trwy sianelau cyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n obeithiol bod sicrwydd y byddant yn gwneud elw ar eu buddsoddiad o ystyried y ffaith bod tymor yr haf eisoes yn llenwi’n gyflym.

Mae Linda wrth ei bodd ac os bydd pethau’n mynd fel y dylent, mae’n credu y bydd Lydia ac Ed yn defnyddio’u caniatâd cynllunio er mwyn cael pod arall.

“Byddai eu tad yn hynod falch ohonynt, pe bai yma o hyd i weld yr hyn y maent wedi’i gyflawni,” dywedodd Linda.

“Rydw i’n cyfrif fy mendithion bod y ddau ohonynt yn gweithio mor galed, a’u bod wedi cael yr holl gymorth, yr holl arweiniad a’r holl sgiliau ychwanegol yr oedd eu hangen arnynt diolch i Cyswllt Ffermio, er mwyn iddynt gael yr hyder i gydweithio a chychwyn y fenter newydd gyffrous hon ar y fferm lle y cawsant eu magu.”

Mae’n ymddangos bod dyfodol y fferm deuluol hon yn ddiogel yn nwylo medrus iawn y brawd a’r chwaer mentrus a’u mam hynod o gefnogol.

Am wybodaeth bellach am y cymorth, yr arweiniad a’r hyfforddiant sydd ar gael trwy gyfrwng Cyswllt Ffermio, ffoniwch eich swyddog datblygu lleol neu ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio. Yn ogystal, gallwch ofyn am gopi o ‘Cynllunio ar gyfer olyniaeth…cychwyn y sgwrs’, sef canllaw defnyddiol er mwyn helpu i gychwyn y broses.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac fe’i ariannir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

%d bloggers like this: