MEWN araith i Sefydliad Bevan yn ddiweddarach heddiw (16 Mehefin), bydd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg yn amlinellu mesurau i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol ac i osod safonau uchel i bawb.
Bydd rhai o’r camau gweithredu a amlinellir yn cynnwys:
edrych ar ffyrdd o ddenu athrawon i’r ardaloedd mwyaf difreintiedig, a mynd i’r afael â materion y mae llawer o ysgolion yn eu hwynebu wrth recriwtio ac ailhyfforddi athrawon mewn ardaloedd heriol. Y nod fydd treialu dulliau gwahanol i ddechrau;
cyflwyno rhaglen i ddarparu cymorth gan gymheiriaid i uwch-arweinwyr sy’n gweithio yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Fel rhan o’r rhaglen hon, byddent yn cael eu mentora gan gyd-weithwyr sydd wedi gweithio mewn ardaloedd tebyg ac sy’n gallu cynnig arweiniad a chymorth ymarferol; a
comisiynu ymchwil mewn perthynas ag addysgu dysgwyr mewn “grwpiau cyrhaeddiad cymysg”. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos mai’r gwledydd sy’n mabwysiadu grwpiau cyrhaeddiad cymysg cyhyd ag y bo modd yw’r rhai sydd â’r systemau tecaf yn aml. Bydd hyn yn arwain at ganllawiau cenedlaethol ar gyfer pob ysgol.
Bydd yr araith yn nodi cyfres o fesurau fel rhan o ddull system gyfan, gan gefnogi addysg a gofal plentyndod cynnar, addysg gynradd ac addysg uwchradd, a phob math o addysg, hyfforddiant a dysgu gydol oes ôl-16.
Dull cymunedol o ddarparu addysg fydd yn sail i’r rhain, gan sicrhau addysgu ac arweinyddiaeth o’r radd flaenaf, gyda ffocws ar iechyd a llesiant.
Bydd y dull system gyfan hwn yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm newydd i Gymru ac yn sicrhau bod pob dysgwr o’r cyfnod cyn-ysgol hyd at ddysgu ôl-16 a dysgu gydol oes yn cael ei gefnogi drwy gydol eu taith addysg.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Yn anad dim, cenhadaeth ein cenedl yw sicrhau safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb drwy fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, gan greu system addysg wirioneddol deg yng Nghymru.
Gwyddom fod y tarfu a welwyd yn sgil y pandemig wedi gwaethygu’r bwlch rhwng dysgwyr o gefndiroedd incwm isel a’u cyfoedion. Nawr, yn fwy nag erioed, yw’r amser inni gymryd camau radical a pharhaus, a chreu system addysg deg i’n plant a’n pobl ifanc i gyd.
Wrth inni symud tuag at gyflwyno ein Cwricwlwm newydd i Gymru, mae angen inni sicrhau bod ein dysgwyr i gyd yn cael eu cefnogi i wireddu eu potensial, a dyna pam rwy’n nodi’r mesurau y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â hyn fel blaenoriaeth ddiamod.”
Fel rhan o’r cynlluniau, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agosach gyda’r Sefydliad Gwaddol Addysg, elusen uchel ei pharch sy’n gweithio i gau’r bwlch anfantais. Bydd y ddau sefydliad yn ffurfio ‘partneriaeth strategol’, gyda Llywodraeth Cymru yn defnyddio arbenigedd a phrofiad y Sefydliad Gwaddol Addysg yn y sector addysg. Mae’r cynlluniau yn cynnwys gweithio gyda’r Sefydliad hwn i ddarparu addysg a chyngor proffesiynol i athrawon mewn perthynas â ffyrdd seiliedig ar dystiolaeth o godi cyrhaeddiad dysgwyr o gefndiroedd incwm isel, ac i gefnogi eu llesiant.
More Stories
Conservatives’ Lack of Action on Obscene Energy Profits “Indefensible” says Welsh Lib Dems
New Audit Office Report on Poverty in Wales supports Plaid Cymru’s calls
Successful Operation targeting anti-social driving across Newport and Monmouthshire