04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mae ffisiotherapyddion yn darparu triniaeth Botox dan arweiniad uwchsain ‘safon Aur’ gartref i bobl a sbastigrwydd

Mae pobl â sbastigrwydd yn Sir Caerfyrddin yw’r cyntaf yng Nghymru i dderbyn triniaeth ‘Botox’ gartref dan arweiniad uwchsain fel mater o drefn.

Gwanaethpwyd y dull arloesol hwn o drin yn bosibl diolch i ffisiotherapyddion ‘ymarfer uwch’ sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig gan ddefnyddio technoleg uwchsain gludadwy newydd.

Mae llawer o bobl a chyflyrau niwrolegol, fel strôc, sglerosis ymledol, parlys yr ymennydd ac anaf i’r asgwrn cefn, yn profi gwingiadau cyhyrau (sbastigrwydd), a all achosi poen ac anhawster gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd, fel golchi a gwisgo. Mae tocsin botulinum, a elwir yn gyffredin yn ‘Botox’, yn driniaeth feddygol sy’n cael ei chwistrellu’n uniongyrchol i’r cyhyrau yr effeithir arnynt i’w llacio.

Y safon aur ar gyfer y pigiadau hyn yw iddynt gael eu gwneud gan ddefnyddio arweiniad uwchsain gan ei fod yn fwy cywir, yn darparu canlyniadau gwell, ac yn lleihau’r risg o waedu difrifol. Er gwaethaf hyn, mae mynediad i’r weithdrefn hon yn gyfyngedig iawn ledled y DU.

Oherwydd COVID-19, nid oedd cleifion yn gallu dod i’r ysbyty i gael y driniaeth.

Dywedodd Gary Morris, Ymarferydd Ffisiotherapi Uwch yn BIP Hywel Dda: “Roedd y pandemig yn golygu bod yn rhaid i ni ail-werthuso sut roeddem yn mynd i gefnogi cleifion. Yn draddodiadol roedd yn rhaid i bobl deithio i ysbyty mawr gyda’r offer priodol i dderbyn y driniaeth hon.

“Mae defnyddio’r dechnoleg gludadwy cost isel hon yn golygu y gallwn nawr fynd a’r ysbyty at ein cleifion i bob pwrpas. Mae’r arloesedd hwn wedi bod yn arbennig o bwysig i bobl sydd â lefelau uwch o anabledd lle gall teithio fod yn anodd iawn.

“Mae BIP Hywel Dda yn sicr yn arwain yn y maes hwn, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”

Dau berson sydd wedi elwa yw Kirsty a Katheryn Fields. Mae gan yr efeilliaid 27 oed o Lanelli gyflwr niwrolegol mor brin nes iddo gael ei enwi ar eu hol: ‘Fields condtion’. Mae’r efeilliaid yn dioddef o gwingiadau poenus ac roeddent ymhlith y cyntaf i dderbyn y driniaeth gartref.

Dywedodd eu mam a’u prif ofalwr Lyn: “Er mwyn i Kirsty a Kath fynd i apwyntiad ysbyty mae yna llawer iawn o waith ynghlwm, gall gymryd 5 neu 6 awr yn hawdd. Mae angen gofal 24/7 gartref ar y merched felly mae gwneud hynny wrth dreulio’r rhan fwyaf o’r dydd yn teithio ac yn yr ysbyty yn golygu bod angen gofal ychwanegol arnom i’w cefnogi, gall fod yn flinedig i bob un ohonom. Mae derbyn y driniaeth yng nghysur eu cartref a’i ffitio o amgylch eu hanghenion gofal wedi bod yn fudd enfawr i ni.”

Ychwanega Gary: “Rydym yn falch iawn y gallwn nawr ddarparu’r driniaeth safon aur hon i bobl a sbastigrwydd lle bynnag y mae ei angen arnynt, boed yn ysbyty cyffredinol, ysbyty cymunedol, clinig cymunedol neu yn eu cartref eu hunain.”

Prynwyd yr uwchsain llaw o Healcerion, sy’n cysylltu â thabled, ar gyfer y gwasanaeth gyda chymorth Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae rhoddion I Elusennau Iechyd Hywel Dda yn helpu i wella profiad pobl a sbastigrwydd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n cymunedau sydd mor hael â’r ffyrdd maen nhw’n dewis cefnogi eu helusen GIG leol.”

Dywedodd Calum Higgins, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Cymru ar gyfer y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi: “Fel y corff proffesiynol ar gyfer ffisiotherapyddion rydym yn awyddus i weld datblygiad gwasanaeth arloesol yn y gymuned i gleifion a datblygu sgiliau ymarfer uwch y gweithlu.

“Mae’r pandemig wedi cyflymu newid yn y maes hwn ac mae’n wych gweld Hywel Dda yn datblygu gwasanaeth sy’n mynd i’r claf lle maen nhw ac yn cynnig cyfleoedd i’r gweithlu ffisio ddatblygu’r sgiliau ymarfer uwch hyn.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi arwain yn y maes hwn o’r blaen pan ddaeth y sefydliad cyntaf yng Nghymru ac un o’r cyntaf yn y byd i ddefnyddio meddygyniaeth a ragnodir gan ffisiotherapyddion.

Ar hyn o bryd mae’r bwrdd iechyd yn gweithio ar y cyd a Phrifysgol Caerdydd a Kings College London, i ddatblygu safonau rhyngwladol ar ddefnyddio chwistrelliad Botox dan arweiniad uwchsain. Bydd ymchwil a datblygiad yr arfer hwn yn anelu at gynyddu chwistrelliad dan arweiniad uwchsain mewn ymarfer clinigol.

%d bloggers like this: