03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mae gan bobl ifanc ddiddordeb mewn pleidleisio, yn ôl ymchwil newydd

MAE gan bobl ifanc ddiddordeb mewn pleidleisio, yn ôl ymchwil newydd

Mae gan bobl ifanc a dinasyddion tramor ddiddordeb mewn pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, ac mae ganddynt fwy o ddiddordeb na rhai grwpiau o oedolion sydd eisoes â’r hawl i bleidleisio, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddir heddiw.

Cafodd yr ymchwil ar adnewyddu ymgysylltiad democrataidd ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i lywio gwaith i weithredu newidiadau a newidiadau arfaethedig i bwy sy’n cael pleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru, drwy ei Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), yn ymestyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol i bobl 16 a 17 mlwydd oed a phob dinesydd tramor sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru.

Bydd gan y grwpiau hynny hefyd yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd o 2021 ymlaen, yn unol â Deddf y Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

Mae’r ymchwil yn dangos:

Bod diffyg gwybodaeth a dadrithiad cyffredinol ynghylch gwleidyddiaeth yn rhwystrau allweddol i ymgysylltu. Roedd cred bod gan wleidyddiaeth yng Nghymru broffil isel, wrth i rai cyfranogwyr ddweud nad oeddent yn dod ar draws y pwnc yn y cyfryngau;
Bod rhai cyfranogwyr nad ydynt o’r UE/y Gymanwlad yn rhwystredig na allent bleidleisio mewn unrhyw etholiadau yng Nghymru. Roedd y grwpiau hyn o gyfranogwyr felly yn croesawu cynllun Llywodraeth Cymru i roi’r hawl i bleidleisio yn etholiadau cynghorau lleol i ddinasyddion nad ydynt o’r Gymanwlad neu’r UE sy’n byw yng Nghymru;
Bod cyfranogwyr yn dueddol o fod yn ansicr sut i godi mater ynglŷn â’u cymuned leol. Mae’n debyg bod yna ddiffyg dealltwriaeth o sut i godi mater, mynegi barn neu newid unrhyw beth. Roedd llofnodi deisebau ar-lein yn eithaf cyffredin ac roedd gan rai brofiad o wirfoddoli, sy’n awgrymu bod yna botensial i ennyn eu diddordeb ymhellach.
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r ymchwil i lywio strategaethau i ymgysylltu â grwpiau o bleidleiswyr sydd newydd gael y bleidlais – a’r rhai sy’n dueddol o fod wedi ymddieithrio rhag gwleidyddiaeth – ynglŷn â’u hawliau democrataidd ac annog pleidleiswyr i gyfranogi.

I ddechrau mynd i’r afael â’r materion a nodwyd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £800,000 i gynorthwyo pleidleiswyr newydd, a’r rhai sydd eisoes â’r bleidlais, i ddeall eu hawliau democrataidd ac ymwneud â’r prosesau democrataidd.

Bydd y gwaith hwn yn cynnwys datblygu adnoddau i’w defnyddio gyda phobl ifanc mewn ysgolion, a’r tu allan i’r ysgol; ac ymgyrch gyfathrebu benodol i annog pleidleiswyr sydd newydd gael y bleidlais i gofrestru a chymryd rhan yn etholiadau’r Senedd yn 2021 a’r etholiadau llywodraeth leol yn 2022.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i annog pobl Cymru i chwarae rhan lawn a gweithgar yn ein democratiaeth.

“Bydd canfyddiadau’r ymchwil hon yn llywio ein gwaith parhaus i sicrhau bod pobl o bob oed a chefndir yn teimlo’n rhan o gymdeithas Cymru.

“Rydym am sicrhau bod pobl yn deall sut i gymryd rhan yn ein democratiaeth, a’u bod eisiau cymryd rhan, drwy, er enghraifft, bleidleisio, sefyll i fod yn gynrychiolydd etholedig, dechrau deiseb neu fod yn gynrychiolydd cymunedol.”

Mae’r Ymchwil ar gael yma: https://llyw.cymru/adnewyddu-ymgysylltiad-democrataidd-ymchwil-archwiliol?_ga=2.156812859.1663908997.1583142548-1076520333.1543493747

%d bloggers like this: