04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mae rheolwr Folly Farm, Kim Brickell, bob amser yn troi at Cyswllt Ffermio pan mae hi eisiau dysgu sgil newydd!

“Mae ffermio yn ddiwydiant blaengar sy’n symud yn gyflym felly mae gwyddoniaeth newydd y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohoni a ffyrdd arloesol, mwy effeithlon o wneud pethau bob amser yn dod i’r amlwg,” meddai Kim Brickell, rheolwr fferm yn un o gyrchfannau teuluol mwyaf poblogaidd Cymru, Parc Antur a Sw Folly Farm, ger Dinbych-y-pysgod.

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd tlws Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio i Kim (30), a aned yn Sir Benfro, yn seremoni wobrwyo flynyddol Lantra Cymru. Roedd y wobr i gydnabod ei hymrwymiad eithriadol i ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a chymhwyso ei gwybodaeth a’i sgiliau newydd yn effeithiol i’r hyn y mae’n ei disgrifio fel ei swydd ‘freuddwydiol’

Dywed Kim fod cyrsiau e-ddysgu Cyswllt Ffermio, sydd wedi’u hariannu’n llawn, wedi ei galluogi i ‘ddysgu’r holl wybodaeth gyfredol yn fy amser fy hun ac ar fy nghyflymder fy hun’, sydd nid yn unig wedi cynyddu ei sgiliau ond sydd hefyd yn ei galluogi i rannu’r wybodaeth honno i aelodau eraill o dîm Folly Farm sy’n fwy newydd i’r maes.

“Mae’r ystod o wasanaethau cymorth sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, gan gynnwys gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid, digwyddiadau diwrnod agored ac ystod eang iawn o bynciau sy’n gysylltiedig â ffermio rydw i wedi’u hastudio trwy e-ddysgu wedi rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd i mi yr wyf yn eu defnyddio bob dydd.”

Wedi’i leoli ar brif lwybr twristiaeth rhwng Arberth a Dinbych-y-pysgod, mae Folly Farm yn cwmpasu tua 200 erw gyda chyfran helaeth o’r tir ffermio ar agor i’r cyhoedd. Gan ddenu tua 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn, mae ei sw o’r radd flaenaf yn gartref i fwy na 100 rhywogaeth o anifeiliaid egsotig, adar a llawer o greaduriaid eraill. Rôl Kim yw gofalu am iechyd, lles a hwsmonaeth gyffredinol diadelloedd y fferm o ddefaid a geifr prin, bridiau arbenigol o foch a dofednod yn ogystal â nifer fawr o anifeiliaid anwes bach.

Er na chafodd ei magu ar fferm, dechreuodd cariad Kim at yr awyr agored ac anifeiliaid yn ifanc iawn ac er yr oedd hi’n dal i fod yn y chweched dosbarth ar y pryd, bu’n helpu yn Folly Farm yn ei hamser hamdden. Gwelwyd ei hymroddiad a’i gallu yn syth gan y teulu ffermio llaeth entrepreneuraidd sydd wedi adeiladu Folly Farm yn fusnes gwerth miliynau o bunnoedd fel y mae heddiw. Ar ôl cwblhau ei chymwysterau Safon Uwch, cafodd ei phenodi’n gynorthwyydd llawn amser, rôl a gyfunodd hi ag astudio ar gyfer gradd sylfaen mewn gwyddor anifeiliaid yng Ngholeg Sir Benfro. Ers hynny mae wedi bod yn ddilyniant cyson i fyny drwy rengoedd Folly Farm i Kim, fel goruchwyliwr cynorthwyol, goruchwyliwr ac mae bellach yn ‘byw’r freuddwyd’ fel rheolwr fferm, lle mae hi, ynghyd â chyd-reolwr a thîm o chwe aelod o staff, yn gyfrifol am redeg ochr amaethyddol ac anifeiliaid fferm y busnes yn llyfn. Mae hi hefyd yn ymwneud â strategaethau pridd a glaswelltir y fferm, dau bwnc y mae hi wedi’u hastudio trwy Cyswllt Ffermio.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Rydym yn gweithredu system bori cylchdro, sydd wedi arwain at wella iechyd a ffrwythlondeb y pridd drwy ddosbarthu tail yn well, yn ogystal â chynnydd mewn porthiant ar ôl pob cyfnod ‘gorffwys’, felly mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill i ni fel rheolwyr fferm a’r holl stoc sy’n elwa o’r bywyd awyr agored.

“Mae’n hawdd cael mynediad at ba bynnag bwnc e-ddysgu Cyswllt Ffermio y mae gennych ddiddordeb ynddo ac rydych yn gwybod y byddwch yn cael y wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnoch, wedi’i gosod ar y lefel gywir, mewn ffordd glir a chryno.

“Mae pob modiwl rhyngweithiol wedi’i dargedu at bobl sy’n gweithio yn y diwydiant, maen nhw i gyd yn cymryd tua 20 neu 30 munud i’w cwblhau ac yn cynnwys cwis ar y diwedd sy’n rhoi sicrwydd i chi eich bod wedi amsugno’r wybodaeth yn gywir, ond os na, rydych chi’n ei wneud eto,” meddai Kim.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae hi wedi ymgymryd â mwy nag 20 o fodiwlau e-ddysgu gwahanol, gan eu cyfuno â gweminarau a gweithdai sector-benodol amrywiol ar yr hyn sy’n ‘hanfodol i’w wybod’ yn ôl Kim. Mae hi wedi cwblhau modiwlau e-ddysgu ar bynciau iechyd anifeiliaid gan gynnwys ymwrthedd anthelmintig, bioddiogelwch, cadw stoc mewn cwarantîn a brechiadau yn ogystal â chlefydau a chyflyrau penodol sy’n effeithio ar ddefaid, moch a dofednod.

“Roeddwn hefyd eisiau dysgu mwy am iechyd a diogelwch fferm oherwydd fel rheolwr, mae angen i mi fod yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau cyfredol ac annog cydweithwyr i flaenoriaethu gweithio’n ddiogel.

Dywed Kim fod hyblygrwydd e-ddysgu ‘ynghyd â’r bonws gwych nad oes unrhyw gostau yn gysylltiedig’ wedi ei galluogi i ddefnyddio unrhyw amser sbâr sydd ganddi.

“Os oes gwybodaeth ychwanegol rydw i’n teimlo y bydd yn fy helpu yn fy swydd, rydw i bob amser yn troi at Cyswllt Ffermio a fy ngliniadur yn gyntaf.”

Mae Kim yn frwd dros ddefnyddio Storfa Sgiliau, cyfleuster storio data ar-lein Cyswllt Ffermio sy’n cofnodi ei holl weithgareddau a chyflawniadau DPP, gan ei galluogi i nodi unrhyw fylchau yn ei sgiliau a chynllunio dilyniant ei gyrfa ar gyfer y dyfodol. Felly beth sydd nesaf i’r ffermwraig ifanc uchelgeisiol hon?

“Mae ffermio cynaliadwy yn ffocws allweddol yn Folly Farm ac yn ogystal â defnyddio ein system biomas a’n paneli solar, rydym yn ailgylchu’r rhan fwyaf o’n gwastraff gan gynnwys cewynnau a phlastig a adawyd gan ymwelwyr.

“Y nesaf ar fy agenda DPP yw dysgu beth arall y gallwn ei wneud i leihau ein hôl troed carbon – trwy Cyswllt Ffermio wrth gwrs!”

%d bloggers like this: