MAE Marchnad Caerdydd wedi ail-agor gydag amrywiaeth o stondinau yn barod i groesawu cwsmeriaid yn ôl yn ddiogel ac, fel rhan o dreial newydd a gynlluniwyd i ddenu mwy o gwsmeriaid, eu cŵn.
Mae’r mesurau sydd ar waith i sicrhau diogelwch cwsmeriaid yn cynnwys:
system un ffordd; mesurau ymbellhau cymdeithasol; gofyniad i wisgo masg; a hefyd gorsafoedd diheintio dwylo.
Mae nifer o stondinau newydd hefyd yn agor ym Marchnad Caerdydd, gan gynnwys: Spirit Infusions; Casa Agape; a Bloomfield Handmade.
Dywedodd Stondinwyr y Naked Vegan, Sarah a Chris Powney:
“Mae wedi bod yn flwyddyn anodd gyda’r holl ansicrwydd i fusnesau a chwsmeriaid, mae’n wych ein bod yn agor Marchnad Caerdydd i bawb ac yn wych gweld y gall perchnogion anifeiliaid anwes ddod â’u cŵn i’r farchnad erbyn hyn.
“Mae’r gwaith caled y mae porthorion a Rheolwr y farchnad wedi’i wneud yn ystod y cyfnod cloi i sicrhau bod Marchnad Caerdydd yn edrych yn ffres a gwahodd a sicrhau y bydd pawb yn ddiogel tra byddant yn siopa wedi bod yn anhygoel.
“Mae llawer o stondinwyr hefyd wedi manteisio ar y cyfle yn ystod y cyfnod cloi i ailwampio ac uwchraddio eu busnes, bydd nifer o fusnesau newydd a chyffrous hefyd yn agor yn y Farchnad i sicrhau bod rhywbeth i bawb ac mae Marchnad Caerdydd yng nghanol y ddinas ar gyfer siopa. Yn anad dim, bydd yn wych gweld ein holl gwsmeriaid gwych eto a fydd yn sicrhau bod Marchnad Caerdydd yn llawn bwrlwm eto.”
Gofynnir i berchnogion cŵn gadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn bob amser, a rhoi gwybod i stondinwr neu aelod o dîm y Farchnad ar unwaith os bydd achos o faw cŵn.
Bydd toiledau’r Farchnad ar gael i’r cyhoedd, gyda gwell cyfundrefnau glanhau ar waith.
Bydd y Farchnad ar agor o 8am i 5pm, Llun – Sadwrn.
Pic. M J Richardson / Cardiff Market 1891
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m