04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mawrth 23 bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cofio dioddefwyr Covid 19

DDYDD Mercher 23 Mawrth, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn ymuno ag eraill ledled y wlad i nodi carreg filltir ddifrifol.

Ar y dyddiad hwn yn 2020, cyhoeddwyd y cyfnod cloi cyntaf yn y wlad yn y frwydr i fynd i’r afael â Covid:19 wrth i’r clefyd gael effaith.

Ers hynny, mae dros 5,000 o bobl yng Nghymru wedi marw ar ôl cael y coronafeirws yn ystod y pandemig.

Ar 23 Mawrth, bydd tŵr cloc y Ganolfan Ddinesig yn cael ei oleuo’n felyn – lliw coffa – yn dilyn cais gan drigolion lleol sy’n aelodau o Teuluoedd Covid:19 Cymru, grŵp sy’n cefnogi pobl sydd wedi colli anwyliaid.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Mudd:

“Roeddwn yn falch y gallem ateb y cais hwn a bydd y tŵr cloc yn un o nifer o adeiladau cyhoeddus a fydd yn cael eu goleuo o amgylch y wlad.

“Mae blodau melyn hefyd wedi cael eu plannu y tu allan i’r Ganolfan Ddinesig fel arwydd o barch.

“Mae cymaint o fywydau wedi’u colli yng Nghasnewydd, Cymru ac ar draws y byd ac mae llawer ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi marw o ganlyniad i Covid:19 neu sydd wedi cael profedigaeth. Bydd 23 Mawrth yn ddiwrnod i gymryd seibiant a myfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf a chofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau a’u teulu a’u ffrindiau sy’n galaru.

“I’r rhan fwyaf o bobl, dyma fydd yr amser mwyaf heriol i’r wlad, a’r byd, yn ystod eu hoes. Unwaith eto, hoffwn dalu teyrnged i bawb – o weithwyr brys i wirfoddolwyr – sydd wedi gweithio ar y rheng flaen i ofalu am eraill a’u cefnogi.

“Rhaid i ni gofio nad yw’r pandemig wedi dod i ben eto ac mae angen i ni barhau i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i amddiffyn ein hunain, ein hanwyliaid ac eraill yn y gymuned. Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl eraill rhag mynd drwy’r un boen â’r rhai sydd wedi cael profedigaeth oherwydd y clefyd.”

Mae Teuluoedd Covid 19 Cymru hefyd yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd nodi 23 Mawrth mewn nifer o wahanol ffyrdd gan gynnwys rhoi cennin Pedr, goleuadau melyn neu galon felen mewn ffenestr; cynnal munud o dawelwch am hanner dydd neu 9pm; clymu rhuban melyn o amgylch coeden neu blanhigyn yn eich gardd neu gysylltu â rhywun sydd wedi cael profedigaeth.

%d bloggers like this: