03/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Menter Moch Cymru yn cymeradwyo ymarfer rhithiol y deyrnas unedig i brofi cynlluniau wrth gefn i ddelio gyda chlwy Affricanaidd y moch

Bydd ymarfer ledled y DU i efelychu toriad o Clwy Affricanaidd y Moch (ASF) yn digwydd heddiw (Dydd Iau’r 22ain o Orffennaf) I brofi’r cynlluniau sydd wrth gefn i ddal a dileu’r afiechyd pe bai’n cyrraedd y DU.

Bydd yr ymarfer sydd yn dod dan yr enw “Exercise Holly” yn gweld Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Defra, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a’r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon yn gweithio gyda’i gilydd i brofi a datblygu cynllun wrth gefn y DU.

Mae’r ymarfer yn cymryd arwyddocâd ychwanegol yr wythnos hon gan fod y firws wedi’i ganfod mewn moch domestig yn yr Almaen am y tro cyntaf.

Mae ASF yn glefyd heintus iawn sydd yn effeithio ar foch ond nid oes unrhyw fygythiad i iechyd pobl. Mae’r afiechyd wedi cael effaith ddinistriol ar gynhyrchu moch yn Tsieina a’r Dwyrain Pell ac mae hefyd yn symud o ddwyrain Ewrop tuag at y gorllewin, mae bellach yn bresennol yng Ngwlad Belg. Mae’r afiechyd yn lledaenu o fochyn i fochyn ond gall moch hefyd gael eu heintio o gynhyrchion cig moch halogedig.

 

%d bloggers like this: