03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mentrau adfer wedi Covid i gael eu cefnogi gan arian grant

MAE trigolion Casnewydd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn prosiect cyllidebu cyfranogol newydd sydd wedi’i lansio i gefnogi cymunedau lleol a’u helpu i gael eu cefn atynt ar ôl Covid-19.

Mae ‘Ein Llais, Ein Dewis, Ein Porth’, sydd wedi sicrhau bod £100,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol ledled y ddinas, bellach ar agor i dderbyn ceisiadau.

Mae cyllidebu cyfranogol yn broses sy’n rhoi cyfle i drigolion Casnewydd bleidleisio dros y prosiectau sydd bwysicaf iddynt. Bydd unigolion a grwpiau’n gallu gwneud cais am hyd at £10,000 i gefnogi eu syniadau a’u prosiectau.

Daw’r arian ar gyfer ‘Ein Llais, Ein Dewis, Ein Porth ’ gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan trwy Gronfa Blynyddoedd Cynnar ac Atal Llywodraeth Cymru.

Gofynnir i ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf lunio fideo tair munud syml yn cyflwyno eu syniad ac yn amlinellu’r hyn y caiff yr arian ei ddefnyddio ar ei gyfer. Bydd y fideos wedyn yn cael eu dangos mewn digwyddiad ar-lein ddydd Sadwrn 27 Mawrth, lle gall trigolion bleidleisio dros y prosiectau sydd bwysicaf iddynt, gyda’r arian yn cael ei ddyrannu ar ddiwrnod y digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd David Mayer, yr aelod cabinet dros gymunedau ac adnoddau: “Un o’n prif flaenoriaethau ar hyn o bryd yw helpu ein cymunedau i gael eu cefn atynt ar ôl y  pandemig.

“Rwy’n falch iawn felly y bydd y prosiect cynhwysol hwn yn rhoi cyfle i drigolion gyflwyno eu syniadau a dweud eu dweud o ran sut y caiff yr arian hanfodol hwn ei ddosbarthu.”

Mae’r rownd hon o gyllidebu cyfranogol yn benodol ar gyfer prosiectau sy’n cynorthwyo grwpiau agored i niwed i gael eu cefn atynt ar ôl Covid-19, felly gofynnir i ymgeiswyr sut maen nhw’n bwriadu defnyddio’r arian a pha grwpiau agored i niwed fydd yn elwa o’u prosiectau.

I gefnogi grwpiau sydd â diddordeb, bydd cymorthfeydd ymgeisio a chymorth gwneud fideos gan Mutual Gain, cwmni sydd â phrofiad o ddod â digwyddiadau cyllidebu cyfranogol ynghyd ledled y DU.

 

%d bloggers like this: