04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Merch yn ei harddegau o’r Bari yn Brif Weinidog am y diwrnod

MERCH 16 oed o’r Bari yw Prif Weinidog Cymru am y diwrnod wrth i ferched ar draws y byd gymryd yr awenau i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer yr Eneth.

Mae Jaime wedi camu i esgidiau’r Prif Weinidog Mark Drakeford i ddathlu pŵer merched ac i alw am weithredu i chwalu’r rhwystrau sy’n parhau i’w hwynebu yn yr oes sydd ohoni.

Mewn gwledydd ar draws y byd heddiw, mae merched yn cymryd drosodd rolau allweddol ym maes y cyfryngau, busnes a llywodraethau i fynnu pŵer, rhyddid a chynrychiolaeth gyfartal i ferched a menywod ifanc.

Mae Jaime, myfyrwraig Lefel A, wedi bod yn gweithio gyda grŵp ieuenctid ym Mro Morgannwg i gynnal prosiect, Her Voice Wales, sy’n grymuso pobl ifanc i ddod yn hyrwyddwyr cydraddoldeb yn eu cymunedau. Mae’r grŵp yn mynd i’r afael â diogelwch ar y stryd a heclo ac yn ymgyrchu i ddarparu mwy o fannau diogel i bobl ifanc.

Yn ogystal â chyfarfod â Gweinidogion a deddfwyr, yn ystod ei diwrnod fel y Prif Weinidog, bydd Jaime yn agor cynhadledd i’r wasg wythnosol Llywodraeth Cymru ac yn cymryd rhan mewn cyfarfod ar droseddau casineb ochr yn ochr â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt.

Bydd Jaime hefyd yn gwylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Senedd cyn cymryd rhan mewn digwyddiad i ddathlu cyfranogiad Cymru yng Nghwpan y Byd cyn y twrnamaint fis nesaf.

Dywedodd Jaime:

“Dydw i methu aros i fod yn Brif Weinidog ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol yr Eneth! Dw i’n edrych ymlaen i gymryd rhan yn y rhaglen i ddangos y pwysigrwydd o weld merched mewn rolau arwain pwerus, sydd mor bwysig i sicrhau cydraddoldeb go iawn rhwng y rhywiau.”

Meddai Mark Drakeford:

“Rwy’n siŵr y byddaf yn dysgu llawer oddi wrth y Prif Weinidog Jaime wrth iddi gamu i fy esgidiau am y diwrnod.

Mae gan fenywod a merched y pŵer i newid y byd ond, yn rhy aml o lawer, ni roddir cyfle iddynt wneud hynny.

Er fy mod i’n falch bod mwy na hanner y rolau yn fy Nghabinet yn cael eu llenwi gan fenywod, nid yw hynny’n ddarlun sy’n cael ei ailadrodd ledled Cymru, felly mae gennym ni lawer mwy o waith i’w wneud.

Rwy’n gobeithio y bydd merched ledled Cymru yn gweld yr hyn y mae Jaime yn ei wneud heddiw ac yn cael eu hysbrydoli i ddod yn arweinwyr i’r dyfodol.”

Ychwanegodd Rose Caldwell, Prif Weithredwr Plan International UK:

“Mae’n wirioneddol ysbrydoledig gweld Jaime yn cymryd drosodd rôl Prif Weinidog Cymru heddiw, ar ddegfed pen-blwydd Diwrnod Rhyngwladol yr Eneth, ac mae’n gyffrous gweld arwydd mor gryf gan y Prif Weinidog o’i ymrwymiad i bŵer cyfartal a chydraddoldeb rhywiol.

Mae merched yn dweud wrthym eu bod eisiau sedd wrth y bwrdd a chymryd rhan mewn sgyrsiau gwleidyddol mewn ffordd ystyrlon. Ond yn rhy aml o lawer maent yn cael eu tanbrisio, eu tanseilio a’u diystyru. Mae’n hen bryd i hynny’n newid.

Ochr yn ochr â Jaime, rydym yn galw ar arweinwyr o bob math i ystyried yr hyn y gallant ei wneud i gydnabod a gwerthfawrogi pŵer lleisiau merched – cam sy’n hollbwysig os ydym am gyflawni cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru ac yn ehangach.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn Llywodraeth Ffeministaidd ac, fel rhan o’r ymdrech hon, mae wedi dechrau cyflwyno Cyllidebu ar Sail Rhyw. Mae Cyllidebu ar Sail Rhyw yn ddadansoddiad o sut mae polisïau a chyllidebau Llywodraeth Cymru yn effeithio ar wahanol rywiau ac mae’n nodi sut mae gwariant y Llywodraeth yn effeithio ar gydraddoldeb rhywiol gyda’r bwriad o wneud penderfyniadau ariannu gwell.

 

%d bloggers like this: