04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Merched mewn Amaeth yn denu bron 30,000 o wylwyr

LLWYDDODD Cyswllt Ffermio i ddenu bron i 30,000 o wylwyr ar ei lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’r wefan wrth i ymgyrch flynyddol Merched mewn Amaeth y rhaglen fynd ar-lein am y tro cyntaf y mis diwethaf.

Y thema ar gyfer eleni oedd ‘Arwain newid’, ac roedd y cyfuniad o weminarau grŵp, cymorthfeydd un i un dros y ffôn, cyflwyniadau fideo a sesiynau holi ac ateb yn fformat llwyddiannus ar gyfer rhaglen eleni o weithgareddau a digwyddiadau ‘o bell’. Daeth merched at ei gilydd i gymryd seibiant o’r gwaith ffermio, gweithio, gofalu am blant ac addysgu yn y cartref, a’r ymrwymiadau eraill a ddaw yn sgil Covid-19.

Roedd y pynciau’n amrywio o les meddyliol i ddatblygiad personol ac o gynllunio olyniaeth i iechyd anifeiliaid ac arallgyfeirio, gan ddenu sylwadau, safbwyntiau a barn gan ferched nid yn unig ledled Cymru a’r DU ond hyd yn oed Dubai!

Dywed Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, fod y lefelau syfrdanol o ymgysylltiad ar-lein yn arwain y ffordd ar gyfer cynyddu’r ystod o wasanaethau ar-lein a ddarperir gan Cyswllt Ffermio.

“Rydym ni wedi bod yn ehangu ar ein hystod o wasanaethau ar-lein, digidol a dros y ffôn ers dechrau’r cyfyngiadau Covid-19, a arweiniodd at ohirio pob un o’n digwyddiadau torfol dros dro.

“Er na chafodd y rhai a gymerodd ran yn nigwyddiad Merched mewn Amaeth eleni gyfle i rwydweithio wyneb i wyneb, sydd bob amser yn rhan gymdeithasol iawn o’r diwrnod, drwy newid fformat a hyd yr ymgyrch, rydym wedi gallu estyn allan ac ysbrydoli miloedd yn fwy o unigolion a ymunodd ar-lein,” meddai Mrs Williams.

Un o sêr yr wythnos oedd Anna Truesdale, merch ifanc amlwg a dylanwadol ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n ffermio gyda’i theulu yn County Down.  Llwyddodd Anna i ddenu adborth gadarnhaol iawn ar ei chyflwyniad fideo cyntaf, gan arwain at bron i 4,000 yn gwylio ei gweminar, a oedd yn cynnwys cyngor ynglŷn â chreu cynnwys diddorol, tynnu lluniau da a denu dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Y gyfrinach ar gyfer llwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol yw dechrau arni,” meddai Anna.

“Camwch yn ôl, ailfeddyliwch a symudwch eich busnes yn ei flaen!” Llwyddodd un o fentoriaid Cyswllt Ffermio, Lilwen Joynson, i daro tant gyda nifer o fynychwyr pan fu’n trafod pwysigrwydd datblygiad personol, a sut mae angen i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb dros ein iechyd meddwl er mwyn gwella ein hyder a’n lles.

“Addaswch i newid, dysgwch y gwersi, daliwch ati.” Mae Julie a Keri Davies yn ffermio yn Nyffryn Crai ac maen nhw wedi arallgyfeirio i redeg busnes twristiaeth mewn ardal anghysbell a phrydferth iawn yng Nghanolbarth Cymru. Soniodd y pâr yn gwbl onest sut y gwnaethon nhw ailafael yn eu busnes ar ôl digwyddiad erchyll a dod yn ôl yn gryfach.

“Dechreuwch y sgwrs, dydi hi byth yn rhy fuan.”  Bu Siân Bushell, mentor Cyswllt Ffermio yn annog teuluoedd i fynd i’r afael â’r pwnc anodd o gynllunio olyniaeth yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach –  sy’n aml meddai yn rhy hwyr!  “Dylai pob busnes gynllunio ar gyfer y dyfodol!”

Cafwyd neges debyg ynglŷn â phwysigrwydd ‘siarad yn agored a gofyn cwestiynau anodd’ gan yr arbenigwr hyfforddiant iechyd meddwl, Emma Picton-Jones o Sir Benfro, a sefydlodd fudiad gwirfoddol adnabyddus DPJ Foundation er cof am ei gŵr, Dan, ffermwr ifanc a gymerodd ei fywyd ei hun yn 2016.

“Arallgyfeirio, iechyd anifeiliaid, marchnata a chynllunio busnes – fe wnaethom ni lwyddo i ddod â rhai o arbenigwyr blaenllaw Cymru ar ystod o wahanol bynciau pwysig ynghyd, ar gyfer ein cyfres o gymorthfeydd cyfrinachol dros y ffôn ac fel rhan o’r digwyddiadau grŵp ar-lein.

“Mae lefel yr ymgysylltiad, y cwestiynau a’r sylwadau gan gymaint o ferched a gymerodd ran yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru,” meddai Mrs Williams.

Os wnaethoch chi fethu unrhyw un o’r cyflwyniadau eleni, neu os hoffech glywed y geiriau doeth hynny eto, gallwch eu gwylio eto drwy fynd i dudalennau Merched mewn Amaeth ar www.llyw.cymru/cyswlltffermio

%d bloggers like this: