04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Merthyr Tudful fod yn brif atyniad adloniant y Cymoedd gyda lleoliad o’r radd flaenaf

GALL Merthyr Tudful fod yn fan gre i gerddoriaeth byw, comedi, y celfyddydau a bwyd – gyda chynlluniau i drawsnewid hen adeilad y Clwb Rygbi yn lleoliad adloniant bywiog.

Mae’r entrepreneur lleol, Jorge D’ascencao, wedi cyhoeddi cynlluniau cyffrous ar gyfer y lleoliad a fydd yn agor fel ‘Clwb Crown’ yn 2022.

Mae’r project trawsnewidiol hwn yn bosib trwy fuddsoddiad gan Gynllun Creu Lleoliadau Trawsnewid Trefi, mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Bydd y fan gre yn croesawu artistiaid cyfrinachol byd-enwog cyn bo hir.

Bydd y Clwb yn dal 700 o bobl, y lleoliad sy’n dal y mwyaf o bobl yn ardal Blaenau’r Cymoedd ac yn cynnwys bar coffi, gwin a thapas ar un ochr a lleoliad perfformio modern ar yr ochr arall – ar gyfer perfformiadau theatrig ,dawns, comedi a cherddoriaeth byw.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Bydd y lleoliad hefyd yn cynnig gofod ar gyfer cydweithio cymunedol yng nghanol y dref, gyda lle ar gyfer corau a chwmnïau drama i ymarfer, ystafelloedd arddangosfa ar gyfer artistiaid a man cyfarfod ar gyfer grwpiau lleol eraill.

Mae’ Clwb Crown yn rhan fechan ond allweddol o gynllun eang y Cyngor – gyda’r bwriad o drawsnewid Merthyr Tudful yn brif atyniad twristiaid y Cymoedd erbyn 2034.

Yn wreiddiol o Bortiwgal, mae Jorge D’ascencao, yn enwog ym Merthyr Tudful am drawsnewid y New Crown yn 2011 – hen dafarn sydd bellach yn fan gre ar gyfer bwyd a cherddoriaeth yng nghanol y dref.

Gyda rhyddhau darluniau heddiw, y gobaith yw y bydd project diweddaraf Jorge yn atyniad arall i ganol y dref, gan greu swyddi a lleoliad diogel a deniadol ar gyfer pobl a’r gymuned leol i gymdeithasu, gweithio ac ymlacio.

Bydd yr adeilad 1,000 metr sgwâr yn cynnig bwyd a diod trwy’r dydd – o goffi yn y bore, i ginio a swper Portiwgaleg gyda’r nos, diolch i Fatima, gwraig Jorge.

Dwedodd Jorge:

“ Ein bwriad yw creu lleoliad modern ar gyfer y celfyddydau a cherddoriaeth ar gyfer pobl Merthyr Tudful- wrth alw mewn am goffi cyn gwaith, ymweld ag arddangosfa gelf gyda ffrind neu ymuno â ni am dapas a cherddoriaeth fyw ar nos Wener. Rydym am gael pobl at eu gilydd a bod yn ganolbwynt cymdeithasol ar gyfer Merthyr Tudful.”

Gyda rhestr adloniant o fandiau a pherfformwyr yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd nesaf, y gobaith yw y bydd Clwb Crown yn cael dylanwad positif ar statws y dref fel lleoliad cerddoriaeth o bwys.

Ychwanegodd Jorge:

“Rydym yn gobeithio y bydd Clwb Crown yn cefnogi’r sin gerddoriaeth ym Merthyr Tudful, gan gynnig cyfleoedd i fandiau newydd berfformio a datblygu sgiliau a gwaith ar gyfer cerddorion a chriw technegol.”

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Adnewyddu, Trawsnewid a Masnacheiddio, y Cyng. Geraint Thomas:

“Gan ddechrau fel adeilad Cymdeithas y RAF yn 1978 ac yna yn gartref i’r Clwb Rygbi, mae’r lleoliad wedi bod yn un prysur ers blynyddoedd. Felly ar ôl bod yn wag am flynyddoedd, rydym wrth ein boddau gweld yr adeilad yn cael ei drawsnewid.

“Bydd Clwb Crown yn cynnig rhywbeth newydd I Ferthyr Tudful- gan ddod a balchder i bobl leol a rhywle newydd i dwristiaid o’r Cymoedd, Caerdydd ac yn ehangach. Mae hyn yn rhan o weledigaeth y Cyngor ar gyfer y dref – gan ddod â phartneriaid strategol, grwpiau lleol, preswylwyr a busnesau at ei gilydd i gynnig gwasanaethau ac adeiladau a’r cysyniad cryf o gymuned sy’n bodoli a chreu economi leol sy’n rhoi cyfle i bawb ffynnu.

“Mae Clwb Crown ond yn un o’r datblygiadau y gall preswylwyr ei ddisgwyl gweld yn y misoedd nesaf, gyda sawl project cyffrous arall ar y gweill ar gyfer 2022.”

%d bloggers like this: