04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mudiad Meithrin yn cyhoeddi gweithgareddau ‘Wythnos Cymraeg yn y Cartref’

YN ystod cyfnod pandemig y Coronafeirws mae Mudiad Meithrin amglustnodi wythnos gyntaf Mehefin fel ‘Wythnos Cymraeg yn y Cartref’.Rydym yn ymateb i rai pryderon na fydd plant yn clywed yr iaith arferol a glywir yn ystod sesiwn Cylch Meithrin yn ystod cyfnod y pandemig, ac yn darparu cefnogaeth ymarferol i rieni di-Gymraeg.

 Bydd arlwy ‘Wythnos Cymraeg yn y Cartref’ y Mudiad (1-5 Mehefin) yn cynnwys llu o weithgareddau hwyliog ac ymarferol i blant o dan 5 a’u rheini yn y cartref.

Am 10.00 fore Llun, 1 Mehefin bydd Clwb Cylch (#ClwbCylch) yn cael ei lansio ar ein llwyfannau digidol – sef sesiynau agored wedi eu seilio ar ‘Amser Cylch’ yn y Cylch Meithrin arferol gydag arweinydd Cylch Meithrin profiadol yn eu cynnal ar-lein bob bore i gefnogi teuluoedd. Bydd y sesiynau 20 munud dyddiol yma’n parhau i gael eu cynnal am rai wythnosau, a bydd thema gwahanol i bob wythnos.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Nod ‘Clwb Cylch’ yw ceisio ail-greu peth o hwyl a chynnwrf Cylch Meithrin ar gyfer plant sydd naill ai’n colli allan ar ddarpariaeth ar y funud neu sy’n paratoi at fynd i’r Cylch maes o law. Bydd hyn hefyd yn cyfoethogi arlwy presennol ‘Cymraeg i Blant’ sydd wedi ei anelu at rieni a gofalwyr wrth iddynt gyflwyno’r Gymraeg i’w plant”.

Am 2.00 bnawn Llun, 1 Mehefin bydd Gŵyl Dewin a Doti Ddigidol yn cael ei lansiodros ein platfformau digidol yng nghwmni’r diddanwr Martyn Geraint.Bydd fideo fer yn cael ei dangos bob prynhawn am 2.00 ar y thema ‘Dewin, Doti a’r Het Hud’ o ddydd Llun i ddydd Gwener (1-5 Mehefin) a bydd llu o weithgareddau i blant yn cael eu rhoi ar dudalen Facebook a chyfrif  Trydar Mudiad Meithrinpob dydd ar ôl y sioe.

Meddai Iola Jones, Pennaeth Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:

“Gan fod Gŵyl Dewin a Doti yn rhan bwysig o galendr digwyddiadau’r Cylchoedd Meithrin roeddem yn awyddus i barhau i ddod ag arlwy’r Ŵyl i’r plant a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd yma, felly bydd yr Ŵyl yn cyrraedd eu cartrefi ar ffurf fideos byrar-lein a fydd yn cynnwys caneuon cyfarwydd a genir yn ein Cylchoedd Meithrin yng nghwmni Martyn Geraint a Dewin a Doti wrth gwrs!’

Yn ogystal â’r uchod mae’r Mudiad wedi sefydlu grŵp Facebook/MiriMeithrin sy’n gyfrwng i bobl gyfrannu deunyddiau Cymraeg i blant ifanc, ac mae staff Cymraeg i Blant wedi creu dros 450 o fideos byr ar-lein ers cyfnod y pandemig. Mae modd gweld rhain ar dudalennau Facebook lleol Cymraeg i Blant ac mae detholiad ohonynt i’w gweld ar dudalen i rieni ar wefan y Mudiad Cymraeg@Adre. Bydd yr holl sesiynau uchod i’w gweld ar blatfformau digidol y Mudiad (Facebook/MudiadMeithrin, trydar@MudiadMeithrin) yn ogystal ag ar adran newydd ar wefan y Mudiad – www.meithrin.cymru/cymraegadre/

%d bloggers like this: