YN ystod cyfnod pandemig y Coronafeirws, mae Mudiad Meithrin yn cyfrannu at weithgarwch Cymraeg yn y cartref trwy ddarparu sesiynau agored dan faner ‘Clwb Cylch’ (#ClwbCylch) i blant oedran Cylch a’u rhieni trwy lwyfannau digidol.
Bydd pwyslais penodol ar blant o deuluoedd ble na siaredir y Gymraeg yn y cartref.
Cynhelir sesiwn byw bob boream 10.00 wedi’i seilio ar brofiad ‘Amser Cylch’ yn y Cylch Meithrin arferol gydag arweinydd Cylch Meithrin profiadol, gan ddefnyddio cynnwys ogynllun trochi iaith Mudiad Meithrin, Croesi’r Bont a chynllun hyfforddiant Mudiad Meithrin, Academi. Hyd y sesiynau dyddiol fydd 20 munud, a bydd thema gwahanol i bob wythnos.
Pwrpas ‘Clwb Cylch’ yw cefnogi teuluoedd, cynnig arlwy a diddanu plant mewn modd agored a deinamig. Rydym yn ymateb i rai pryderon na fydd plant yn clywed yr iaith arferol a glywir yn ystod sesiwn Cylch Meithrinyn ystod cyfnod y pandemig, ac yn darparu cefnogaeth ymarferol i rieni di-Gymraeg.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Nod ‘Clwb Cylch’ yw ceisio ail-greu peth o hwyl a chynnwrf Cylch Meithrin ar gyfer plant sydd naill ai’n colli allan ar ddarpariaeth ar y funud neu sy’n paratoi at fynd i’r Cylch maes o law. Bydd hyn hefyd yn cyfoethogi arlwy presennol ‘Cymraeg i Blant’ sydd wedi ei anelu at rieni a gofalwyr wrth iddynt gyflwyno’r Gymraeg i’w plant”.
Bwriedir cynnal sesiwn cyntaf Clwb Cylch ar dudalen Facebook Mudiad Meithrin ar Ddydd Llun 1 Mehefin am 10.00 y bore. Bydd yr holl sesiynau i’w gweld ar blatfformau digidol y Mudiad (Facebook/MudiadMeithrin, trydar@MudiadMeithrin) yn ogystal ag ar adran newydd ar wefan y Mudiad – www.meithrin.cymru/cymraegadre/
Dyma’r arweinyddion fydd yn arwain y sesiynau ar ddyddiau penodol o’r wythnos:
Dydd Llun: Wendy Phillips – Cylch Meithrin Crymych
Dydd Mawrth: Sophie Allen – Cylch Meithrin Cwmbrân
Dydd Mercher: Emma Healy – Cylch Meithrin Llanllyfni
Dydd Iau: Rachael Duddle – Cylch Meithrin Bae Cinmel
Dydd Gwener: Emma Monroe – Cylch Meithrin Gwdihŵ, Brynithel
Bydd yr uchod yn rhan o arlwy ‘Wythnos Cymraeg yn y Cartref’ y Mudiad gan y bydd Gŵyl Dewin a Doti Ddigidol yn cael ei chynnal am 2.00 bob pnawn ar holl gyfryngau cymdeithasol y Mudiad yng nghwmni Martyn Geraint am yr wythnos 1 – 5 Mehefin.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m