03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

‘Muriau gwyrdd’ wedi’u gosod ar ddau adeilad y prifddinas

MAE ‘muriau gwyrdd’ wedi’u gosod ar ddau adeilad yng Nghaerdydd sy’n eiddo i’r cyngor i wella ansawdd aer a bioamrywiaeth mewn ardaloedd lle nad oes llawer o fannau gwyrdd, os o gwbl.

Mae’r sgriniau sydd wedi’u llenwi ag iorwg, sy’n helpu i gael gwared ar lygredd niweidiol o’r aer ac sy’n cefnogi amrywiaeth eang o bryfed peillio brodorol drwy greu cwsgfannau iddynt a ffynhonnell o fwyd yn y gaeaf, wedi’u gosod ar Ganolfan Gymunedol Dusty Forge yn Nhrelái ac Ysgol Gynradd Kitchener yn Nhreganna. Bydd planhigion dringo ychwanegol, gan gynnwys gwyddfid, barf yr hen ŵr a phys pêr yn cael eu hychwanegu at y sgriniau drwy gydol y flwyddyn, gan wella’r manteision i fioamrywiaeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:

“Bydd y muriau gwyrdd hyn yn rhoi help llaw gwerthfawr i fywyd gwyllt, ac mae astudiaethau wedi dangos y gallant hefyd helpu i wella ansawdd aer lleol.

“Gall prosiectau Seilwaith Gwyrdd trefol o’r math hwn ein helpu i gyflawni nodau ein Strategaeth Aer Glân, a byddant yn chwarae rhan bwysig wrth i ni barhau ar ein taith tuag at fod yn Gaerdydd Un Blaned, gan gymryd camau i ateb heriau deuol yr hinsawdd a’r argyfyngau bioamrywiaeth rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd.”

Sicrhawyd cyllid ar gyfer y ‘muriau’ trwy raglen ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Natur Leol newydd Caerdydd.

Mae rhaglen monitro ansawdd aer yn cael ei rhoi ar waith i fesur effaith y muriau ar ansawdd aer, ac mae prosiect gwyddor dinasyddion sydd â’r nod o ymgysylltu â’r gymuned leol a monitro newidiadau mewn bioamrywiaeth hefyd yn cael ei ddatblygu, mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Natur.

Mae partneriaid eraill sy’n ymwneud â’r prosiect yn Dusty Forge yn cynnwys Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) a Grow Cardiff

Mae’r prosiect yn Ysgol Gynradd Kitchener yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â staff a disgyblion yr ysgol a Gwyrddio Glan-yr-afon.

%d bloggers like this: