03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Nawr yw’r amser gweithredu yn erbyn anghydraddoldeb hiliol medd Llywodraeth Cymru

LANSIODD y Prif Weinidog, Mark Drakeford ymchwiliad brys ym mis Ebrill i ddeall y rhesymau dros y risg uwch yn sgil y coronafeirws ymhlith cymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).

Heddiw (Medi 24) mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hadroddiad manwl mewn ymateb i adroddiad Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol Grŵp Cynghorol BAME Cymru ar COVID-19 o dan arweiniad yr Athro Ogbonna, a oedd yn gwneud dros 30 o argymhellion i fynd i’r afael â’r effeithiau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol a brofwyd gan y cymunedau BAME. Mae’r prif bwyntiau hyd yma yn cynnwys:

Cafodd Pecyn Asesu Risg Covid-19 Gweithlu BAME Cymru ei gyflwyno ar y cychwyn ar gyfer lleoliadau a Gofal Cymdeithasol. Mae fersiwn wedi’i addasu ar gyfer lleoliadau Addysg, a fersiwn mwy cyffredinol ar gyfer gweithleoedd wedi eu paratoi hefyd;

Mae’r ohebiaeth Covid-19 ‘Cadw Cymru yn Ddiogel’ wedi’i gyfieithu i 36 o ieithoedd i fod ar gael yn hawdd i amrywiol gymunedau;

Mae’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn cael ei baratoi i ddatblygu camau pellach ar anghydraddoldeb, a cânt eu cyflwyno ar ddiwedd tymor y Cynulliad hwn;

Mae LlC yn llunio Uned Gwahaniaethau ar Sail Hil i Gymru i bwyso am gydraddoldeb hiliol – bu’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn trafodaethau gyda’r Arglwydd Simon Woolley, sy’n bennaeth Uned Gwahaniaethau ar Sail Hil Llywodraeth y DU;

Mae’r cynllun Cymunedau, cyfraniadau a cynefin wedi ei sefydlu: Mae gweithgor BAME newydd wedi ei sefydlu i roi cyngor ar a gwella yr addysg ar bynciau sy’n gysylltiedig â chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phrofiadau ar draws pob rhan o gwricwlwm yr ysgol, o dan arweiniad yr Athro Charlotte Williams;

Mae LlC yn cyflwyno y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus i gael cynrychiolaeth well o bobl BAME ac anabl mewn penodiadau cyhoeddus. Mae LlC ar hyn o bryd yn recriwtio Aelodau Panel Uwch Annibynnol i oruchwylio y recriwtio i benodiadau cyhoeddus uwch, a datblygu rhaglen hyfforddi a mentora ar arweinyddiaeth i bobl BAME a phobl anabl; a hefyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu llinell gymorth i roi Cyngor BAME, yn gyntaf fel prosiect peilot 6 mis, sy’n cael ei ddarparu gan EYST mewn partneriaeth â sefydliadau BAME a sefydliadau amrywiaeth eraill.

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

“Roedd yr adroddiad gan Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol COVID-19 Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y Prif Weinidog yn gosod anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru yng nghyd-destun COVID-19. Mae’r gwaith caled a’r angerdd a ddangoswyd gan aelodau o is-grŵp yr Athro Ogbonna wedi bod yn hollbwysig er mwyn cyrraedd lle rydyn ni heddiw, a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt.

“Mae’r adroddiad yn nodi llawer o’r materion y mae angen inni fynd i’r afael â nhw yn glir, ac yn gosod sylfaen bwysig ar gyfer y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru, y byddaf i yn ei arwain.

“Nid yw ein hymateb cychwynnol i’r adroddiad yn rhestr gynhwysfawr o’r camau sy’n cael eu cymryd, ond mae’n rhoi cipolwg ar ein cynnydd hyd yma yn erbyn ei argymhellion.

“Mae camau mewn ymateb i lawer o’r argymhellion eisoes ar waith. Mae rhai camau wedi cael eu cwblhau, ac rydyn ni wedi ymrwymo i eraill. Byddwn yn adolygu ein cynnydd yn rheolaidd wrth i’r Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol barhau i gyfarfod ac wrth i nifer o’r argymhellion gael eu datblygu ymhellach a’u hymgorffori yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

“Rydw i’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Athro Ogbonna a’i dîm, yn ogystal â chynrychiolwyr o lawer o sefydliadau Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau strwythurol a systemig y mae Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrif Ethnig yn eu profi yng Nghymru ac yn gweithio tuag at ein huchelgais o gael Cymru gyfartal, sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.”

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

“Rydw i’n ddiolchgar i Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol Grŵp Cynghorol BAME Cymru ar COVID-19 yr Athro Emmanuel Ogbonna am ei waith caled a’i argymhellion. Mae ei adroddiad yn un difrifol a phwerus, sy’n tynnu sylw at yr anghydraddoldebau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn sy’n effeithio ar bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Mae angen gwneud newidiadau mawr drwy’r gymdeithas er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd llawer o gamau ar hyd y ffordd, ond rydyn ni’n cydnabod bod ffordd bell i fynd eto.

“Heddiw, rydyn ni’n cadarnhau o’r newydd ein hymrwymiad hirsefydlog i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb. Rydyn ni wedi edrych yn ofalus ac yn onest ar y strwythurau a’r systemau mewn cymdeithas ac wedi  ystyried ble a sut y gallwn wneud newidiadau a fydd o fudd i bawb.

“Mae ein gwaith i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn mynd rhagddo a bydd yn darparu’r sylfaen er mwyn sicrhau newid systemig a chynaliadwy i Gymru. Bydd yn cael ei ddatblygu cyn diwedd tymor y Senedd hon. Mae’r Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol wedi cytuno i fonitro gweithrediad eu hargymhellion.

“Lle nad yw cyfrifoldeb wedi’i ddatganoli, byddwn yn parhau i ddefnyddio pob dull ysgogi sydd gennym i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r argymhellion hynny. Byddwn yn meithrin perthnasoedd ar lefel swyddogol i sicrhau ein bod yn weladwy ar faterion perthnasol a’n bod yn gallu herio’n effeithiol pan fo angen.

“Nawr yw’r amser i weithredu, ac mae’r llywodraeth hon yn ymrwymedig i greu etifeddiaeth barhaus i Gymru, lle caiff pawb eu trin yn deg a chael yr un cyfleoedd i ddatblygu.”

%d bloggers like this: