03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Neges y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Ddiwrnod Bioamrywiaeth y Byd oedd ‘cymerwch gamau bach i wella mannau gwrdd’

“MAE’N argyfwng natur arnon ni ac yn awr, yn fwy nag erioed, rhaid i ni helpu ein bywyd gwyllt.”

Dyna oedd neges y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James ar Ddiwrnod Bioamrywiaeth y Byd wrth iddi ein hatgoffa bod y camau lleiaf hyd yn oed, fel pa mor aml rydyn ni’n torri’r borfa, yn gallu gwella mannau gwyrdd.

Mae’n holl ecosystemau’n dibynnu ar eu bioamrywiaeth – ond mae bioamrywiaeth y byd yn dirywio, ar raddfa sy’n ddigynsail yn hanes dynoliaeth.  Mae un o bob chwech rhywogaeth sydd wedi’u hasesu yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru.

Mae newid y patrwm torri porfa ar diroedd glas ac ymylon ffyrdd yn gallu creu dolydd ar gyfer blodau brodorol, gan gynnig cynefin i fioamrywiaeth iach sy’n hanfodol i’n lles.

Yn ystod ei hymweliad â Golf Road yn New Inn, Pont-y-pŵl, lle mae’r bobl leol wedi rhoi eu cefnogaeth frwd i dorri porfa’n llai aml, dywedodd Julie James:

“Mae’n argyfwng natur arnon ni ac yn awr, yn fwy nag erioed, rhaid i ni helpu ein bywyd gwyllt a’i gryfhau yn wyneb y newid yn ein hamgylchedd.

Er bod porfa sydd wedi’i thorri’n rheolaidd yn edrych yn dwt, mae’n ddiwerth i fyd natur. Trwy newid ein patrymau torri, gallwn greu cynefin gwell i lawer o wahanol fathau o anifeiliaid a phryfed, a storio mwy o garbon yn ein pridd hefyd gan helpu i arafu’r newid yn yr hinsawdd.

Mae’r hyn y mae pobl Golf Road wedi’i wneud yn wych. Er bod pawb yn betrus i ddechrau, maen nhw’n teimlo’n llawer mwy hyderus erbyn hyn.  Dyma’r math o esiampl rydym am i ardaloedd eraill yng Nghymru ei dilyn.”

Ym Mwrdeistref Sirol Tor-faen, mae yna dros 120 o safleoedd lle mae patrymau torri porfa wedi’u newid a lle mae blodau gwyllt yn cael eu hannog i dyfu wrth i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau a chymunedau lleol i wneud ymylon ffyrdd a thiroedd glas yn fwy croesawgar i fywyd gwyllt trwy newid patrymau torri porfa.

Meddai Veronika Brannovic, Cydgysylltydd Partneriaethau Natur Lleol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen:

“Mae’r newidiadau hyn i’r patrymau torri porfa ar draws y sir eisoes wedi gwneud byd o wahaniaeth i fywyd gwyllt a’n lles, hyd yn oed ar y lleiniau lleiaf.

Rydyn ni’n gweld cynnydd yn y blodau gwyllt, pryfed a rhywogaethau eraill ac rydyn ni am ehangu’r rhaglen flwyddyn nesaf i wneud y gorau o’r manteision sydd eisoes wedi’u gweld a’n helpu i addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.”

%d bloggers like this: