04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

New vaccination plan to build on success of world-leading Covid-19 programme

Digital vaccination records and simplified booking systems are among some of the changes set out in a new plan to increase the take up of vaccinations across Wales.

The plan, which is published by Health Minister Eluned Morgan today [Tuesday 25 October], builds on the success of the Covid-19 vaccination roll-out and will help to improve access to and the supply of vaccines.

The National Immunisation Framework for Wales sets out a series of actions which will make it easier for people to know what vaccinations they are eligible for and how to receive them.

This includes digital vaccination records, simplified booking systems and vaccines being given at the same appointment, so people can get their flu and Covid-19 jabs at the same time, for example. This will be more convenient for people and help to increase take-up of these two seasonal vaccines in the future.

The process to transform vaccination services is underway as the autumn Covid-19 booster and winter NHS flu jab programmes are integrated this year.

The framework also outlines the move towards the national procurement of the flu vaccine over the next two years, although GPs and pharmacies will continue to administer the vaccine to patients.

Minister for Health and Social Services Eluned Morgan, said:

“We want as many people as possible to come forward for their vaccinations – from the routine childhood vaccines to the free NHS winter flu jab. Vaccines save lives and help to keep us all safe.

“But to do this we need to make sure vaccines are easily available. People’s response to the Covid-19 vaccination programme has been phenomenal, showing a real collective effort to keep Wales safe.

“This ambitious National Immunisation Framework builds on the success of that programme and applies it to all our other vaccine programmes. It will help to transform the way vaccinations are provided in Wales.”

Vaccines play an important role in public health. The Covid-19 vaccine has transformed our response to the pandemic, helping reduce serious illnesses and deaths.

The World Health Organisation estimates that vaccination prevents up to three million deaths worldwide each year.

Dr Chris Johnson, Head of the Vaccine Preventable Disease Programme at Public Health Wales, said:

“Immunisation helps stop the spread of serious illnesses and provides health protection to the whole of our population. Ensuring we are all up-to-date with our vaccines is important for our own health, but also to protect the health of our children, friends, families and the vulnerable in our communities.

“Vaccinations are an essential public health tool, saving millions of lives globally every year. With successful vaccination campaigns we have made diseases such as smallpox, polio and rubella, that killed or disabled thousands each year, become a thing of the past in the UK. We are also making huge progress in reducing meningitis and HPV-related cancers.

“We can still improve and ensure our communities remain protected and that we keep these diseases rare. We need to do this in partnership with the population, making sure everyone has access to the facts they need to make an informed decision and ensuring everyone has the opportunity to be protected from preventable harm. This framework has these values at its core.”

Cynllun brechu newydd i adeiladu ar lwyddiant y rhaglen Covid-19 o’r radd flaenaf

Cynllun brechu newydd i adeiladu ar lwyddiant y rhaglen Covid-19 o’r radd flaenaf
Lawrlwytho
Bydd cofnodion brechu digidol a systemau trefnu symlach ymhlith rhai o’r newidiadau sydd wedi eu cynnwys mewn cynllun newydd i gynyddu’r nifer sy’n derbyn brechiadau yng Nghymru.

Mae’r cynllun, a gyhoeddir gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan heddiw [dydd Mawrth 25], yn adeiladu ar lwyddiant cyflwyno brechiadau Covid-19 a bydd yn helpu i wella mynediad at frechlynnau a’r cyflenwad ohonynt.

Mae Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru yn nodi cyfres o gamau gweithredu a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl wybod pa frechiadau y mae ganddynt hawl iddynt a sut i’w cael.

Bydd hyn yn cynnwys cofnodion brechu digidol, systemau trefnu symlach a rhoi brechlynnau gyda’i gilydd yn amlach, er mwyn rhoi cyfle i ragor o bobl gael eu brechiadau ffliw a Covid-19 ar yr un pryd, er enghraifft. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl ac yn helpu i gynyddu’r nifer o bobl fydd yn cael y ddau frechlyn tymhorol ar yr un pryd yn y dyfodol.

Mae’r broses o drawsnewid gwasanaethau brechu wedi dechrau, wrth i raglenni atgyfnerthu Covid-19 yr hydref a rhaglenni pigiadau ffliw gaeaf y GIG gael eu hintegreiddio eleni.

Mae’r fframwaith hefyd yn nodi’r symudiad tuag at gaffael brechlyn y ffliw yn genedlaethol dros y ddwy flynedd nesaf, er mai meddygon teulu a fferyllfeydd fydd yn parhau i roi’r brechlyn i gleifion.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib ddod ymlaen i gael eu brechiadau – o’r brechlynnau plentyndod arferol i bigiad ffliw gaeaf am ddim y GIG. Mae brechlynnau’n achub bywydau ac yn helpu i’n cadw ni i gyd yn ddiogel.

“Ond er mwyn gwneud hyn mae angen i ni sicrhau bod brechlynnau ar gael yn hawdd. Mae ymateb pobl i’r rhaglen frechu yn erbyn Covid-19 wedi bod yn anhygoel, gan ddangos ymdrech ar y cyd go iawn i gadw Cymru’n ddiogel.

“Mae’r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol uchelgeisiol hwn yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen honno ac yn ei roi ar waith yn ein holl raglenni brechu eraill. Bydd yn helpu i drawsnewid y ffordd mae brechiadau’n cael eu darparu yng Nghymru.”

Mae brechlynnau’n chwarae rhan bwysig mewn iechyd cyhoeddus. Mae’r brechlyn Covid-19 wedi trawsnewid ein hymateb i’r pandemig – gan helpu i leihau salwch difrifol a marwolaethau.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod brechu yn atal hyd at 3 miliwn o farwolaethau o amgylch y byd bob blwyddyn.

Dywedodd Dr Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae imiwneiddio yn helpu i atal salwch difrifol rhag lledaenu ac i ddiogelu iechyd ein poblogaeth gyfan. Mae’n bwysig sicrhau ein bod wedi cael y brechiadau diweddaraf sydd eu hangen arnom er budd ein hiechyd ein hunain, ond hefyd er mwyn diogelu iechyd ein plant, ein ffrindiau, ein teuluoedd a’r bobl yn ein cymunedau sy’n agored i niwed.

“Mae brechiadau yn adnodd hanfodol yn arfdy iechyd y cyhoedd, gan achub miliynau o fywydau ledled y byd bob blwyddyn. Drwy raglenni brechu llwyddiannus rydyn ni wedi sicrhau bod clefydau megis y frech wen, polio a rwbela – clefydau a fyddai wedi lladd miloedd o bobl bob blwyddyn neu eu gwneud yn anabl – yn atgof yn unig yn y DU. Rydyn ni hefyd yn gwneud cynnydd mawr o ran lleihau achosion o ganser cysylltiedig â’r Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn ogystal â llid yr ymennydd.

“Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod ein cymunedau yn cael eu diogelu o hyd, a bod y clefydau hyn yn parhau’n anghyffredin. Mae angen inni wneud hyn mewn partneriaeth â’r boblogaeth yng Nghymru. Mae’n hollbwysig bod pawb yn gallu dod o hyd i’r ffeithiau sydd eu hangen arnynt er mwyn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth, a bod pawb yn cael y cyfle i gael eu diogelu rhag niwed y gellir ei atal. Dyna’r gwerthoedd sydd wrth wraidd y fframwaith hwn.”

%d bloggers like this: