04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Newid i gyllid rhanbarthol yn gyfle i wella iechyd a llesiant yng Nghymru

MAE adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn trafod sut y gallai cynllun newydd yn y dyfodol yn lle Cronfeydd Strwythurol yr UE fod yn allweddol i wella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru.

Mae’r astudiaeth yn manylu ar sut y mae rhaglen ariannu ranbarthol olynol i raglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE yn cyflwyno cyfleoedd a risgiau i iechyd a llesiant ardaloedd difreintiedig Cymru.

Ar y cyfan, roedd cyfranogwyr yn yr astudiaeth yn cytuno bod Cronfeydd Strwythurol presennol yr UE wedi helpu i fynd i’r afael â blaenoriaethau cymdeithasol ac economaidd mewn ardaloedd lleol ac wedi cael effaith gadarnhaol ar ddylanwadau economaidd, cymdeithasol a chymunedol ar iechyd, gan gynnwys lleihau trais domestig, gwella perthnasoedd teuluoedd a mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Er bod cyfranogwyr o’r farn bod y ffaith bod y cronfeydd yn dod i ben yn fater o bryder, nodwyd meysydd ar gyfer gwella fel llai o fiwrocratiaeth, mwy o hyblygrwydd, a gwell cysylltiadau â chymunedau lleol er mwyn targedau’r ardaloedd a’r cymunedol yr oeddent wedi’u bwriadu i’w cynorthwyo yn effeithiol.

Meddai Sumina Azam, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Gyda Chymru yn hanesyddol yn derbyn dros bedair gwaith a hanner cymaint o Gronfeydd Strwythurol yr UE y pen na chyfartaledd y DU, gallai’r newid yn y cynllun fod yn ganolog i iechyd a llesiant y genedl.

“Mae cynlluniau ariannu wedi’u targedu yn gyfle i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi cymunedau sydd ar y cyrion.

“Er bod nifer o ddulliau gwahanol yn cael eu defnyddio i ymgysylltu â chymunedau lleol, gan gynnwys grwpiau ffocws, arolygon ac ymgyngoriadau, mae ein hastudiaeth yn nodi y gellid gwneud mwy i gynnwys y gymuned leol yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi rhanbarthol. Er enghraifft, gall cyfryngau cymdeithasol, arolygon ar-lein a grwpiau ffocws rhithwir helpu i nodi sut i sicrhau’r manteision mwyaf posibl o’r cyllid.

Hyd yma, mae Cronfeydd Strwythurol yr UE wedi bod yn rhan bwysig o fuddsoddiad rhanbarthol Cymru ac wedi chwarae rhan allweddol o ran llunio dull Llywodraeth Cymru o ran datblygu economaidd, buddsoddi mewn seilwaith, adfywio cymunedol, ymchwil a datblygu a chynyddu lefelau sgiliau.

Mae ‘Effaith Cyllid Rhanbarthol ar Iechyd a Llesiant yng Nghymru; Gweithio tuag at gymunedau mwy cydnerth, cyfartal a ffyniannus,’ yn ceisio cefnogi’r rhai sy’n ymwneud â dyrannu a rheoli cynlluniau cyllid rhanbarthol yn y dyfodol er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl ledled Cymru.

Mae’r adroddiad yn cynnwys dealltwriaeth allweddol o bwysigrwydd presennol Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer iechyd a llesiant ardaloedd lleol gan ganolbwyntio ar wahanol grwpiau poblogaeth. Mae’n trafod yr effaith bosibl ar iechyd a llesiant pan ddaw’r cyllid i ben ac mae’n nodi blaenoriaethau ar gyfer cynlluniau cyllid rhanbarthol newydd yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar adolygiad helaeth o lenyddiaeth a dealltwriaeth o gynrychiolwyr llywodraeth leol, cyrff anllywodraethol a chynrychiolwyr diwydiant mewn dwy ardal leol wahanol yng Nghymru.

%d bloggers like this: