04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ni cheir ysmygu ar dir ysgolion ac ardaloedd chwarae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr o Mawrth cyntaf

BYDD deddfau newydd yn cael eu cyflwyno mewn pythefnos fydd yn gwahardd ysmygu mewn mwy o fannau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r deddfau, sy’n cael eu cyflwyno ledled Cymru ar 1 Mawrth, yn adeiladu ar y gwaharddiad ar ysmygu a gafodd ei gyflwyno yn 2007, ac maent wedi’u dylunio i ddiogelu mwy o bobl rhag niweidiau mwg ail-law, yn ogystal â helpu’r bobl hynny sy’n ceisio rhoi’r gorau i ysmygu.

Mae ysmygu wedi cael ei wahardd ger giatiau ysgolion cynradd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers 2017, ond bydd holl dir ysgolion ac ardaloedd chwarae cyhoeddus, mannau awyr agored, lleoliadau gofal dydd plant a gwarchod plant, a safle ysbytai yn ddi-fwg o dan y ddeddf newydd. Gall unrhyw un fydd yn cael ei ddal yn torri’r gyfraith wynebu dirwy o £100.

Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol:

“Rydym yn ymwybodol o’r niwed all ysmygu ei wneud i iechyd, ac rwy’n gobeithio y bydd trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n defnyddio ardaloedd chwarae a staff, rhieni, gwarchodwyr ac ymwelwyr sy’n defnyddio ein hysgolion a lleoliadau gofal plant yn cefnogi’r deddfau hyn, i sicrhau ein bod ni i gyd yn chwarae rhan mewn adeiladu dyfodol iachach.

“Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i wahardd ysmygu yn yr ardaloedd hyn, fydd yn helpu i ddadnormaleiddio ysmygu, a lleihau’r posibilrwydd o blant a phobl ifanc yn cychwyn ysmygu yn y lle cyntaf – gan arbed bywydau yn y pen draw.”

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Swyddog Gweithredol ASH Cymru, sefydliad sydd eisiau creu Cymru ddi-fwg:

“Mae unigolion sy’n cychwyn ysmygu cyn troi’n 16 oed ddwywaith yn fwy tebygol o barhau i ysmygu ac ysmygu’n drwm, o gymharu ag unigolion sy’n cychwyn yn hwyrach mewn bywyd.

“Yn arolwg YouGov diweddaraf ASH Cymru, dysgwyd fod 81% o oedolion sy’n ysmygu yng Nghymru wedi rhoi cynnig ar eu sigarét gyntaf yn 18 neu ieuengach. Mae’n allweddol bwysig ein bod ni’n atal pobl ifanc heddiw rhag creu’r genhedlaeth nesaf o ysmygwyr.

“Rydym yn gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth hon yn arwain y ffordd at wneud mwy o ardaloedd cyhoeddus yng Nghymru yn ddi-fwg.”

Mae nifer o ysmygwyr wedi cael eu hannog i roi’r gorau iddi yn sgil pandemig Covid-19, a gobeithir y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn annog mwy i wneud hynny.

Mae derbyn cefnogaeth wrth roi’r gorau iddi yn rhoi’r cyfle gorau i roi’r gorau i ysmygu am byth. Gall unigolion sy’n chwilio am gymorth i roi’r gorau i ysmygu ddefnyddio gwasanaeth cefnogi GIG Cymru, Help Me Quit sydd am ddim ar 0800 085 2219 neu fynd i www.helpmequit.wales (External link – Opens in a new tab or window) am gymorth a chefnogaeth, yn cynnwys mynediad at feddyginiaeth rhoi’r gorau i ysmygu am ddim.

%d bloggers like this: