04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ni fydd ffatri boteli bellach lleoli yn Mhenybont

MAE Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi disgrifio’r newyddion na fydd ffatri boteli, a oedd yn disgwyl creu 600 o swyddi newydd, yn cael ei datblygu’n lleol mwyach fel ‘cam yn ôl chwerwfelys’, ac mae wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud ymdrechion newydd i ddenu buddsoddiad newydd i’r ardal.

Ysgrifennodd y Grŵp Ciner at yr awdurdod yn ddiweddar i gadarnhau ei fod yn ceisio datblygu’r ffatri boteli mewn lleoliad arall, gyda sylw yn y cyfryngau yn awgrymu ei fod yn debygol o fod wedi ei leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Rasa ger Glynebwy ym Mlaenau Gwent.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David am y cyhoeddiad:

“Er fy mod yn croesawu’r newyddion y bydd y buddsoddiad sylweddol hwn o fudd i un o rannau mwyaf difreintiedig Cymru, roedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn cael ei hystyried fel lleoliad posibl ar gyfer y gwaith, felly mae’n dal i fod yn dipyn o gam yn ôl chwerwfelys.

“Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dal i ddelio â cholli’r Ffatri Injan Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn cyflogi bron i 1,700 o bobl ac a oedd wedi ychwanegu tua £3.3 biliwn i’r economi leol dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn unig.

“Cafodd gobeithion wedyn y byddai Ineos yn buddsoddi yn yr ardal eu chwalu pan benderfynodd y cwmni adleoli i Ewrop yn hytrach.

“Fel y soniais wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin yn flaenorol, mae buddsoddi brys a gweithredu cyflym yn parhau i fod yn hanfodol i ddiogelu cymunedau ac economi leol y fwrdeistref sirol.

“Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud ymdrechion i’n cefnogi, ac rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i ymuno â nhw ac i beidio ag anghofio am Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

“Rydym angen i’r ddau ohonynt weithio gyda ni i ddod â buddsoddiad, busnesau a swyddi newydd i mewn, i gefnogi cyflogwyr presennol, ac i sicrhau bod cyfleoedd ar gael o hyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn lle gwych i fuddsoddi ynddi, ac rydym wedi ein lleoli hanner ffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe gyda gweithlu lleol hynod fedrus wrth law.

“Mae gan yr ardal gysylltiadau cyfathrebu cryf gyda mynediad hawdd i dair cyffordd ar yr M4, rhwydwaith rheilffordd cyflym Abertawe i Lundain a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Gall ein swyddogion cyngor medrus ddarparu ystod o gefnogaeth cyllid a busnes newydd, ac mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig nifer o gyfleoedd rhwydweithio.

“Rydym hefyd yn rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n gweithio i gynhyrchu twf a ffyniant yn y dyfodol, ac rwy’n gwahodd pob busnes i ddod i weld beth sydd gan yr ardal i’w gynnig.”

%d bloggers like this: