03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ni orfodwyd siop ar Heol Margam, Port Talbot i gau

WEDI i gyfres o sibrydion ffug gylchdroi am y rhesymau dros gau siop ar Heol Margam, Port Talbot dros dro ynghynt yn y mis, hoffai Cyngor Castell-nedd Port Talbot egluro’r sefyllfa.

Ni orfodwyd y siop i gau, ond cytunodd y perchnogion i gau dros dro er mwyn i lanhau trylwyr allu digwydd – rhywbeth a gyflawnwyd yn llwyddiannus.

Ar ddydd Llun Ionawr 11, derbyniodd tîm Gorfodi Covid Cyngor Castell-nedd Port Talbot gyfeiriad oddi wrth y tîm Profi, Olrhain a Gwarchod (TTP) rhanbarthol oedd yn cynnwys enwau nifer o bobl oedd wedi cael cais i hunan-ynysu o ganlyniad i achos positif ymysg eu teulu estynedig, ynghyd â manylion i wirio’r mesurau oedd mewn grym o ran siop / busnes cysylltiedig.

Pan ymwelwyd â’r siop, canfuwyd fod dau berson a ddylai fod yn hunan-ynysu’n gweini wrth y til. O ganlyniad, cysylltwyd â Heddlu De Cymru a’r Tîm Gorfodi Cyfun (JET) a chafodd y ddau unigolyn eu riportio am dorri rheolau COVID.

Nodwyd hefyd nad oedd dim ffenestri ar agor i ddarparu awyr iach, a chytunwyd gan bawb ar Ionawr 12 y byddai’r siop yn aros ar gau dros dro ar gyfer glanhau trylwyr, ac wedyn yn ailagor ar ddydd Mercher Ionawr 13.

Gwnaed ymweliad pellach ar Ionawr 13 i gadarnhau fod yr hyn a gytunwyd wedi cael ei weithredu – cadarnhawyd fod y person y cafodd y swyddogion sgwrs â nhw ar y diwrnod hwnnw wedi gorffen hunan-ynysu, a chadarnhawyd fod yr eiddo wedi cael ei lanhau’n drylwyr, felly o ganlyniad, ailagorwyd y siop ar fore Ionawr 13.

Roedd pawb arall yn yr eiddo hefyd yn gorffen eu cyfnod hunan-ynysu ar y diwrnod hwnnw.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Er ei bod yn amlwg fod gan y siop bwyntiau diheintio dwylo, arwyddion a sgriniau gwarchodol ger y tiliau ac ati, cyflwynwyd llythyr o rybudd (â’r dyddiad 11 Ionawr arno) serch hynny. Atgoffwyd y perchennog ei bod hi o’r pwys mwyaf ei fod yn glynu wrth reolau cadw’r busnes, ac roedd yntau’n cytuno ac yn fodlon cydweithio. Mae’n debygol y bydd ymweliadau gwirio dirybudd yn digwydd dros yr wythnosau nesaf i sicrhau fod cydymffurfio’n parhau i ddigwydd ymhob agwedd.”

%d bloggers like this: