03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Nid yw’r ffigurau diweddaraf am y farchnad lafur yng Nghymru “yn dangos y darlun cyfan” medd gweinidog yr economi

Wrth drafod yr ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Rydym yn cydnabod nad yw’r ffigurau hyn yn dangos y darlun cyfan o safbwynt effaith y coronafeirws ar ein heconomi. Daw’r darlun cyfan i’r amlwg dros y misoedd nesaf ac wrth i gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU ddod i ben.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd pob cam posibl er mwyn diogelu busnesau a swyddi rhag effeithiau difrifol y pandemig. Mae miloedd o gwmnïau ar draws Cymru wedi elwa ar ein pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn. Dyma’r pecyn mwyaf hael sydd ar gael yn unrhyw ran o’r DU ac mae’n ychwanegol at y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys ein Cronfa Cadernid Economaidd, sef cronfa unigryw sydd wedi cynnig cymorth ariannol allweddol i dros 12,000 o gwmnïau, gan helpu i ddiogelu tua 75,000 o swyddi.

“Gwnaethom hefyd gyhoeddi’n ddiweddar becyn gwerth £40 miliwn ar gyfer swyddi a sgiliau a fydd yn cynnig cymorth i bobl fanteisio ar gyfleoedd gwaith, addysg neu hyfforddiant neu i gychwyn busnes ar adeg mor heriol. Bydd y cymorth hwn yn gwbl allweddol er mwyn helpu Cymru i adfer ar ôl y coronafeirws a bydd yn sicrhau bod cymorth ar gael i bawb.

“Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU er mwyn cynnal y cynlluniau cymorth hunangyflogaeth a ffyrlo, sy’n gwbl allweddol, hyd nes y bydd yr argyfwng yn llai difrifol.”

%d bloggers like this: