04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Nodyn atgoffa i drigolion ac ymwelwyr wrth i nifer yr achosion o’r amrywiolyn Delta gynyddu

RYDYM wedi dechrau gweld cynnydd yn nifer yr achosion COVID-19 yng Ngheredigion a ledled Cymru dros y dyddiau diwethaf. Mae’r amrywiolyn Delta wedi’i ganfod yng Ngheredigion; amrywiolyn gwahanol sy’n achosi ystod ehangach o symptomau nag o’r blaen.

Rydym yn dod yn fwyfwy pryderus ynglŷn â’r cynnydd hwn; y gyfradd gyfredol fesul 100 mil o’r boblogaeth yw 33 ac mae hyn yn debygol o gynyddu ymhellach dros y dyddiau nesaf. Mae hwn yn gynnydd sylweddol, o ystyried roedd y gyfradd fesul 100 mil o’r boblogaeth mor isel â 2.8 fesul 100 mil ddechrau mis Mehefin.

Mae’r amrywiolyn newydd o COVID-19 ym mhob rhan o Gymru. Mae’n lledaenu’n gyflymach ac mae angen i ni fod yn fwy gwyliadwrus a sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau diweddaraf sydd fel a ganlyn:

Dim ond aelodau o’ch aelwyd estynedig all ddod i mewn i’ch cartref.
Mae masgiau wyneb yn parhau i fod yn orfodol yn y mannau cyhoeddus dan do sydd ar agor (yn amodol ar rai eithriadau ac esemptiadau), ac ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis.
Dylai pobl geisio gweithio gartref os yw hynny’n bosibl.
Dylai pobl gadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys yn yr awyr agored, a pheidio â chymysgu â gormod o wahanol grwpiau o bobl.
Dylai pobl olchi eu dwylo’n rheolaidd a dilyn cyngor arall ar hylendid.
Rhaid i bobl hunanynysu pan fydd gwasanaeth Profi, Olrhain, a Diogelu GIG Cymru yn dweud wrthynt am wneud hynny.
Trefnwch brawf os ydych chi’n profi unrhyw un o’r symptomau.

Mae symptomau amrywiolyn Delta’r coronafeirws yn cynnwys cur pen, ac yna dolur gwddf, trwyn yn rhedeg a thwymyn. Rydym yn annog pobl sy’n teimlo’n sâl gyda’g UNRHYW un o’r symptomau yma i archebu prawf, bod yn fwy gofalus, cadw pellter cymdeithasol, a chynnal hylendid dwylo da.

Gan fod pawb yn gwneud y gorau o’r haf gan fod y cyfyngiadau wedi llacio tipyn ers dechrau’r flwyddyn, mae’n dal yn hanfodol i bawb gofio ein bod yn parhau i frwydro yn erbyn y feirws hwn ac yn ceisio atal trydedd don. Mae cyfyngu ar eich cysylltiadau yn hanfodol er mwyn cadw cyfradd yr heintiau i lawr, a dyma sut y byddwn yn amddiffyn pob un ohonom yn y pen draw.

Yng Ngheredigion, mae dros 68% wedi derbyn y brechiad cyntaf ac mae dros 44% bellach wedi derbyn yr ail frechiad. Mae dos cyntaf o’r brechlyn nawr ar gael i bawb dros 18 oed. Mae’r ail frechlyn yn gwella’ch imiwnedd yn sylweddol, felly mae’n bwysig eich bod chi’n cael eich ail ddos i gwblhau eich cwrs brechu.

Bydd cael dau ddos y brechlyn a dilyn canllawiau COVID-19 yn ein diogelu ni i gyd yn erbyn yr amrywiolyn newydd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach yn cynnal clinigau galw heibio ar gyfer dos cyntaf ac ail ddos y brechlyn o ddydd Llun 21 Mehefin tan ddydd Sul 27 Mehefin. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

%d bloggers like this: