04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Nyrsys Hywel Dda yn teithio 95 milltir i ysbrydoli pobl sydd â diabetes

MAE dwy nyrs diabetes gymunedol o Geredigion yn paratoi ar gyfer taith feicio heriol i godi arian a meithrin ymwybyddiaeth, ac i ysbrydoli eu cleifion.

Bydd Anwen Jones a Helen Saunders, Nyrsys Arbenigol Diabetes Cymunedol ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn beicio bron i 100 milltir o’r Borth i Aberteifi ddydd Sadwrn 8 Mehefin ar gyfer Diabetes UK Cymru.

Bydd y llwybr troellog trwy gefn gwlad hardd Ceredigion yn mynd trwy bob ardal feddygfa y maent yn gweithio ynddi. Mae’r cyd-weithwyr yn gwahodd cleifion, eu ffrindiau a’u teuluoedd i ymuno â nhw am rywfaint o’r daith neu’r daith gyfan. Mae yna hyd yn oed ran o’r her sy’n addas i deuluoedd, sef o Lanilar i Aberystwyth.

Dywedodd Anwen, 46, “Roeddem am wneud rhywbeth i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr yn yr ardal leol ac i gefnogi Diabetes UK Cymru. Mae llawer o’r bobl y mae Helen a minnau yn rhoi cymorth iddynt yn byw â diabetes Math 2, a byddai cynyddu eu lefelau gweithgaredd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w hiechyd. Trwy feicio’r daith gyfan neu ran ohoni, gobeithiwn y bydd pobl yn cael eu grymuso a’u hysbrydoli i fod yn fwy egnïol ac i wneud rhagor i reoli eu cyflwr.

“Nid oes yr un ohonom yn feicwyr, felly bydd y daith yn llawn cymaint o her i ni. Mae Helen a minnau yn eithaf cystadleuol, ac wedi cytuno y gall pa un bynnag o’r ddwy ohonom sy’n gorffen yn gyntaf gael y diwrnod i ffwrdd ar y dydd Llun!”

Mae gan Gymru’r nifer uchaf o bobl â diabetes yn y Deyrnas Unedig, gyda 7.4% o’r boblogaeth â’r cyflwr. Yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae hyn yn codi i 7.8%. Diabetes Math 2 sydd gan tua 90 y cant o’r bobl sydd â diabetes.

Gall unigolyn ddatblygu diabetes Math 2 am fod hanes o’r clefyd yn y teulu, a gall eu hoedran a’u cefndir ethnig olygu eu bod yn wynebu mwy o risg. Maent hefyd yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes Math 2 os ydynt dros bwysau. Gellid atal neu oedi cynifer â thri o bob pum achos o ddiabetes Math 2 trwy fod yn fwy egnïol, bwyta’n iach a chynnal pwysau iach.

Dywedodd Joseph Cuff, Rheolwr Codi Arian, Diabetes UK Cymru, “Rydym yn gobeithio y bydd pobl ledled Ceredigion yn cael eu hysbrydoli i neidio ar eu beiciau a chymryd rhan yn her Anwen a Helen. Pa un a fyddwch yn ymuno am ychydig filltiroedd neu’r daith gyfan, mae croeso i bawb.”

Gwahoddir y beicwyr i gwrdd y tu allan i Feddygfa’r Borth, gan fod yn barod i gychwyn am 8.00am. Bydd yr her deuluol yn dechrau o Feddygfa Llanilar am 9.30am.

Mae’n costio £30 i gofrestru ar gyfer y brif daith feicio, a £15 ar gyfer her y teulu, a bydd yr holl arian a godir yn mynd i Diabetes UK Cymru.

Bydd Anwen a Helen yn dechrau codi arian gyda chinio ac ocsiwn yn Llanina Arms ddydd Sadwrn 27 Ebrill. Bydd yr eitemau yn yr ocsiwn yn cynnwys crys rygbi’r Sgarlets wedi’i lofnodi, a chrys rygbi Cymru a phêl rygbi wedi’u llofnodi gan y tîm a enillodd Gamp Lawn y Chwe Gwlad, ynghyd â llawer o eitemau eraill a gyfrannwyd trwy garedigrwydd busnesau lleol. Mae’r tocynnau’n costio £25 yr un.

I gael rhagor o wybodaeth am y daith feicio, neu i brynu tocynnau ar gyfer y cinio, cysylltwch ag Anwen ar anwenmai.jones@wales.nhs.uk neu 07964 109694, neu Joseph Cuff ar joseph.cuff@diabetes.org.uk neu 02920 668276.

%d bloggers like this: