04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Oes newydd i hwb cymunedol poblogaidd Clydach

MAE Hwb Cymunedol poblogaidd Clydach, Forge Fach, ar fin dod dan reolaeth cyngor cymuned yr ardal fel rhan o drefniant y cytunwyd arno gyda Chyngor Abertawe i sicrhau dyfodol yr adeilad cymunedol gwerthfawr hwn.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Abertawe,:

“Rydym yn falch iawn y bydd y cyngor cymuned yn rhedeg Forge Fach o 1 Ebrill. Mae’n adeilad pwysig i bobl a grwpiau lleol felly mae’n galonogol y bydd y cyngor cymuned yn gofalu amdano o hyn ymlaen.”

Mae Cyngor Cymuned Clydach yn camu i’r adwy i sicrhau gwasanaeth di-dor ar ôl i’r lesddeiliaid presennol, Walsingham Support, sydd wedi rhedeg Forge Fach yn llwyddiannus ers tua saith mlynedd, nodi eu bod yn ailffocysu ar eu nodau elusennol craidd.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae’r rhain yn cynnwys cefnogi addysg a datblygu sgiliau yn y gymuned, gwirfoddoli a chyflogaeth gefnogol y maent wedi bod yn eu hesblygu’n lleol ers 1999.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Cymuned Clydach:

“Rydym yn falch iawn o fod yn cymryd drosodd Forge Fach er lles y gymuned. Byddwn yn cefnogi ei dwf ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w gynnal fel canolbwynt allweddol i bobl leol.”

Dylai archebion ac ymholiadau barhau fel arfer gan y bydd y ganolfan yn parhau i redeg heb darfu.

Cyngor Abertawe sy’n berchen ar Hwb Cymunedol Forge Fach, er roedd ei rydd-ddaliad i fod i ddychwelyd i’r cyngor cymuned yn y dyfodol agos.

Adeiladwyd y ganolfan adnoddau cymunedol gan ymddiriedolaeth ddatblygu naw mlynedd yn ôl, ond wedi i’r ymddiriedolaeth fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, camodd Cyngor Abertawe i’r adwy i sicrhau bod y ganolfan yn parhau i fod yn hygyrch.

Cymerodd Walsingham Support y brydles yn 2015 ac ers hynny maent wedi ei gweithredu fel hwb cymunedol cynhwysol ar gyfer y gymuned gyfan.

%d bloggers like this: