04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Palmant newydd ar draws pont rheilffordd ger Pontarddulais yn gwella diogelwch

MAE pont y rheilffordd sy’n croesi Pentre Road ger Pontarddulais, pont a berchnogir gan Network Rail, ar gau i draffig ar hyn o bryd wrth iddynt gwblhau gwaith cynnal a chadw.

Mae Cyngor Abertawe wedi bod mewn trafodaethau â Network Rail ers hynny ac wedi datblygu cynllun diogelwch ffyrdd i osod palmant ar draws y bont i helpu cerddwyr i’w chroesi’n ddiogel pan fydd yn ailagor.

Mae arolygon cyflymder diweddar a gynhaliwyd gan y cyngor wedi dangos bod cyflymderau cyfartalog ar draws y bont yn uwch o lawer na’r terfyn cyflymder o 30mya a gallai modurwyr fod yn peryglu bywydau os na chaiff camau eu cymryd i ddiogelu cerddwyr.

Meddai Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant:

“Mae’r llwybr ar draws y bont yn eithaf cul ac nid yw erioed wedi cynnwys palmant i gerddwyr gerdded arno – gan orfodi pobl i gerdded ar hyd y ffordd pan fo ceir yn mynd heibio, yn aml ar gyflymdra sy’n uwch na’r terfyn cyflymder diogel.

“Mae’r llwybr wedi dod yn fwy poblogaidd gyda cherddwyr yn ystod y cyfnod clo ac rydym wedi nodi angen i roi mesurau ar waith sy’n diogelu cerddwyr.

“Gan fod y bont bellach ar gau, mae gennym gyfle i gwblhau cynllun rydym yn hyderus y bydd yn arwain at lwybr cerdded mwy diogel.”

Mae’r gwaith cyfredol i osod palmant yn golygu y bydd y cynllun ffordd dwyffordd presennol yn cael ei leihau i lwybr un lôn gyda goleuadau traffig – rhan o’r cynllun i reoli symudiadau cerbydau i’r ddau gyfeiriad.

Ychwanegodd Mr Davies:

“Rydym wedi cwblhau ymarfer modelu llif traffig helaeth ar gyfer y llwybr hwn, gan ystyried cynnydd yn nifer y cerbydau yn y dyfodol, ac ni ddylai modurwyr boeni ynghylch tagfeydd ar y llwybr pan gaiff y goleuadau eu gosod.

“Mae’n ymateb naturiol weithiau i fodurwyr beidio â chroesawu goleuadau traffig a phoeni am gael eu dal mewn ciwiau o draffig, ond rydym wedi dangos gyda chynllun newydd Broadway fod cyflwyno goleuadau traffig wedi bod o fudd, yn enwedig wrth helpu cerddwyr i symud o gwmpas y gyffordd brysur.”

Unwaith y caiff ei gwblhau, mae’r cyngor yn gobeithio y bydd cynllun newydd y bont yn rhan o lwybr Teithio Llesol ehangach rhwng Pontarddulais a Phengelli.

 

%d bloggers like this: