04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

“Pan mae ofn yn llywio ein gweithredoedd, rhaid i gamau gweithredu fod yn sail i’n hymateb” medd Sioned Williams AS

MAE Plaid Cymru heddiw yn galw am weithredu uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â stelcian.

Heddiw (dydd Mercher 2 Chwefror) bu Plaid Cymru yn dod â dadl i’r Senedd ar stelcian, lle bydd galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth arbenigol i ddioddefwyr, gwella’r ffordd y mae’r heddlu’n ymdrin â stelcian a rhoi mesurau ar waith i helpu i gyfyngu ac atal stelcian.

Yn y DU, bydd 1 o bob 5 menyw ac 1 o bob 10 dyn yn cael eu stelcio yn ystod eu hoes. Dywed elusennau nad yw llawer o ddigwyddiadau’n cael eu hadrodd.

Mae Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn dweud bod yn rhaid cymryd camau “nid yn unig am yr effaith enfawr y mae’n ei gael ar oroeswyr, ond am y bygythiad y mae’n ei achosi i fywyd.”

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae Ms Williams yn dweud bod stelcian yn “symptom” o “broblem ddiwylliannol ehangach mewn cymdeithas o drais, aflonyddu a cham-drin” yn enwedig yn erbyn menywod a merched, ond mae’n nodi bod pobl hefyd yn  debygol o fod yn dargedau stelcian oherwydd hil, rhywioldeb a salwch neu anabledd hir sefydlog.

Meddai Sioned Williams AS:

“Mae pobl wedi gorfod addasu’r ffordd y maent yn byw eu bywydau, achos yr ofn sy’n bodoli, am lawer rhy hir. Ni ddylai ofn fyth fod yn norm, ac eto mae’n rhywbeth y mae gormod o bobl yn ein cymdeithas wedi gorfod dysgu addasu i.

“Bydd 1 o bob 5 menyw yn cael profiad o stelcian yn ystod eu hoes – ac efallai y bydd mwy nad ydynt yn rhoi gwybod i’r heddlu am hyn! Ond mae stelcian yn symptom o fater diwylliannol ehangach. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn mynd yn llawer rhy gyffredin, gydag aflonyddu, cam-drin a thrais yn brofiad dyddiol i lawer sy’n cael eu targedu ar sail eu rhyw, hil, anabledd neu rywioldeb.

“Pan fydd dioddefwyr yn sôn am deimlo fel ‘targed hawdd’ ar drugaredd stelcwyr ar-lein, a gormod yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma, mae’n amlwg bod angen i ni wella dull yr heddlu o ymdrin ag achosion o stelcian, ac ailystyried y gefnogaeth a gynigir i ddioddefwyr yma yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ddarparu canllawiau i sicrhau bod dyluniad mannau cyhoeddus yn ystyried diogelwch y rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef stelcian.

“Mae gennym gyfle hefyd drwy’r cwricwlwm newydd i feithrin diwylliant sy’n atal pobl rhag stelcian yn y lle cyntaf. Gydag elusennau dioddefwyr stelcio yn adrodd am gynnydd mewn stelcian gan gynbartneriaid, mae’n amlwg nad yw addysgu perthnasoedd iach a pharchus erioed wedi bod yn bwysicach.”

%d bloggers like this: