04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pantri cymunedol newydd yn agor ym Mryntirion

Mae pantri cymunedol newydd wedi agor ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi trigolion sy’n ei chael hi’n anodd cael bwyd bob wythnos.

Agorwyd y pantri yng Nghanolfan Gymunedol Bryntirion a Threlales, Mount Pleasant, ddiwedd mis Ebrill, ac mae’n rhoi cyfle i bobl brynu bwyd yn rhatach.

Mae’r prosiect wedi agor pantrïau ar draws y fwrdeistref sirol, a does dim angen prawf modd, felly gall unrhyw un yn y gymuned eu defnyddio. Trefnwyd y prosiect gan dîm Datblygu Gwledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cafodd ei ddarparu gan Eclipse Wales Services gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

Darperir bwyd gan elusen FareShare Cymru, sy’n gweithio i leihau gwastraff drwy ail-ddosbarthu cynnyrch fyddai o bosib yn cael ei gludo i gladdfa sbwriel o ganlyniad i gamgymeriadau mewn pecynnu mewn archfarchnadoedd. Mae’r bwyd yn ffres ac o fewn dyddiadau defnyddio.

Ym mhantrïau Pencoed, Bracla a Betws mae bagiau bwyd sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw ar gael i’w prynu. Ym mhantri Maesteg, dosberthir bagiau bwyd sydd wedi’u pacio ymlaen llaw. Mae pantrïau eraill yn rhoi cyfle i drigolion ddewis eu heitemau eu hunain.

Rhoddir ryseitiau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth i’w hannog nhw i goginio bwyd ffres, a chynigir gwybodaeth am wasanaethau cymunedol a chyllidebu.

Dywedodd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio:

“Mae’n wych gweld y pantrïau cymunedol hyn yn cael eu hagor ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi pobl leol sy’n wynebu heriau.

Mae’r pantri newydd yng Nghanolfan Gymunedol Bryntirion a Threlales yn cynnig cynnyrch rhatach i sicrhau nad yw trigolion yn brin o fwyd, ac mae wedi derbyn cefnogaeth ar gyfer ei hatgyweirio gan gronfa datblygu cymunedol y cyngor.

Mae’r gwasanaeth cymunedol gwych hwn yn helpu i atal bwyd bwytadwy rhag cael ei wastraffu a mynd i gladdfa sbwriel, ac mae trigolion yn ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o resymau, megis am eu bod nhw’n cael trafferth mynd i siopa, llai o incwm, anabledd, ymwybyddiaeth amgylcheddol a mwy.”

Pan fydd cyfyngiadau coronafeirws wedi llacio, mae’r prosiect yn bwriadu agor Caffis Llesiant Cymunedol yng nghymaint o’r lleoliadau â phosib i annog pobl i gymdeithasu a chyfeirio trigolion at wasanaethau eraill all eu helpu nhw, megis cwnsela ar gyfer dyledion, cymorth gyda chyflogadwyedd, tenantiaeth a mwy.

Mae’r pantrïau ar gael yn :

Bryntirion, Abercynffig, Betws, Blaengarw, Bracla, Bryncethin, Cefn Cribbwr, Lewistown, Maesteg, Nantymoel, Pencoed a Porthcawl.

I gael rhagor o wybodaeth am y pantrïau cymunedol, ffoniwch 07544 026265.

%d bloggers like this: