03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru)

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi lansio’n hymgynghoriad ar y Papur Gwyn, sy’n cadarnhau’n cynigion i gyflwyno cyfundrefn newydd i Gymru er mwyn sicrhau ‘Diogelwch Tomenni Glo‘.

Dywedwyd mewn datganiad ysgrifenedig:

Mae hwn yn gam arwyddocaol ymlaen tuag at wireddu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i’r afael ag olion canrifoedd o gloddio ac i sicrhau, er lles ein cymunedau a’r amgylchedd, fod tomenni glo’n ddiogel.

Yn 2020, gwnaeth Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y pryd wahodd Comisiwn y Gyfraith i adolygu’r fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer tomenni glo yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad Comisiwn y Gyfraith, “Rheoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru (dolen allanol) ar 24 Mawrth ar ôl adolygiad ac ymgynghoriad cynhwysfawr. Cadarnhaodd gwaith Comisiwn y Gyfraith bryderon Llywodraeth Cymru nad yw’r gyfraith bresennol bellach yn effeithiol nac yn addas i’r diben o arfer rheolaeth ddiogel ar domenni glo nas defnyddir. Dangosodd yr adolygiad fod angen cyfundrefn newydd, addas at y dyfodol i helpu i fynd i’r afael â’r risgiau cynyddol y byddwn yn eu hwynebu yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Mae canfyddiadau Comisiwn y Gyfraith wedi darparu tystiolaeth werthfawr, ac mae’r dystiolaeth honno, ynghyd â’n gwaith dadansoddi ni ein hunain, wedi helpu i lywio’r cynigion sy’n cael eu hamlinellu yn y Papur Gwyn rwyf yn ei gyhoeddi heddiw.

Rydym wedi cynllunio’n cynigion yn ofalus er mwyn diogelu’n cymunedau, diogelu seilwaith hanfodol Cymru, a diogelu’r amgylchedd drwy gyflwyno ffordd gymesur a gorfodadwy o fonitro a rheoli tomenni yng Nghymru, er mwyn helpu i leihau’r tebygolrwydd o ragor o lithriadau. Mae nifer o fesurau arfaethedig yn y Papur Gwyn er mwyn gwireddu’r amcanion hynny.

Yn gyntaf, rydym yn cynnig y dylid sefydlu awdurdod goruchwylio newydd i oruchwylio’r drefn newydd. Bydd yr awdurdod hwnnw’n sicrhau bod trefniadau rheoli yn eu lle ar gyfer y tomenni categori uchaf, a bydd yn creu ac yn cadw cofrestr asedau genedlaethol newydd.

Rydym yn cynnig hefyd y dylid cyflwyno ffordd genedlaethol newydd o gategoreiddio tomenni, a fydd yn cael ei hategu gan asesiad o’r peryglon a fydd wedi’i deilwra ar gyfer pob safle fel y bo modd ystyried yn llawn y peryglon y gallai tomen eu hachosi i gymunedau, i eiddo, seilwaith neu’r amgylchedd. Rydym yn cynnig mai’r awdurdod goruchwylio fyddai’n arwain ar yr asesiadau hyn o’r peryglon ac ar y cynlluniau rheoli cysylltiedig, a fyddai’n gymesur â’r perygl.

O ran monitro safleoedd, rydym yn cynnig dull cenedlaethol dwy haen ac iddo ofynion monitro a rheoli gwahanol a rhagnodedig a fydd yn seiliedig ar gategori pob domen. Mae’r angen i fod yn gymesur ac yn gosteffeithiol wedi bod yn egwyddorion arweiniol wrth inni gynllunio sut i weithredu. O ran gofynion statudol ar gyfer rheoli tomenni, rydym yn cynnig y byddai’r awdurdod goruchwylio newydd yn sicrhau bod trefniadau rheoli yn eu lle ar gyfer y tomenni categori uchaf ac y byddai’n cyflwyno cytundebau cynnal a chadw ar gyfer y safleoedd categori is. Un o’r diffygion mawr yn y ddeddfwriaeth bresennol yw’r ffaith nad oes ynddi unrhyw bwerau gorfodi. Rydym yn ceisio mynd i’r afael â hynny drwy gynigion i alluogi hawliau mynediad lle bo’u hangen. Byddai’r pwerau hynny nid yn unig yn galluogi’r awdurdod goruchwylio i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth newydd ond byddent hefyd yn caniatáu iddo wneud gwaith cynnal a chadw neu waith adfer pe bai angen. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn ceisio barn am rôl sancsiynau sifil ac am y mathau o weithgarwch y gellid eu defnyddio ar eu cyfer.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 4 Awst a hoffwn wahodd pawb sydd â barn am y mater hwn i ystyried ein cynigion. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd yr Uned Diogelwch Tomenni Glo yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan drwy gofrestru yma (dolen allanol). Rwy’n edrych ymlaen at glywed eich barn am ein cynigion i helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol newydd, a fydd yn cael ei chyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon.

%d bloggers like this: