04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Parc Gwledig poblogaidd y Gnoll dan warchae gan fandaliaid

MAE Parc Gwledig Ystâd Gnoll yng Nghastell-nedd – dan ymosodiad rheolaidd ar hyn o bryd gan fandaliaid sy’n achosi niwed mawr yr amcanir ei fod yn werth miloedd lawer o bunnoedd.

Dros y misoedd diwethaf, niweidiwyd tai bach, torrwyd i mewn i adeiladau, ymosodwyd ar y Ganolfan Ymwelwyr, gan chwalu camerâu CCTV, tynnu teils o’r to, torri ffenestri a gosod eitemau ar dân. Hefyd, cafodd cerrig pafin eu dwyn ac offer chwarae ei fandaleiddio.

Parodd y fandaliaeth ddiwethaf dros y penwythnos i adeilad arall gael ei dorri i mewn drwy’r to, gan ddwyn eitemau, gan gynnwys cerbyd cynnal a chadw trydan pob-tirwedd allyriadau sero’r safle. Cafodd y cerbyd ei yrru o gwmpas y parc, gan niweidio’r ddaear a phlanhigion, cyn cael ei gymryd ar heol i Lwyn yr Eryr, ble cafodd ei adael i lawr ceunant. Hefyd, palwyd cerrig pafin o’u lle, a’u pentyrru, yn barod i’w symud oddi ar y safle.

Cafodd diogelwch ei gynyddu yn y parc, ac mae Heddlu De Cymru, sy’n gwneud mwy o batrolio, yn gweithio gyda’r cyngor er mwyn ceisio dod â’r rhai sy’n gyfrifol o flaen eu gwell.

Er mwyn helpu i warchod y parc i bawb allu’i fwynhau, mae’r awdurdod yn apelio ar bawb sy’n defnyddio’r parc ac sy’n byw gerllaw iddo, i helpu’r cyngor a Heddlu De Cymru i adnabod unrhyw rai sy’n gyfrifol er mwyn eu dwyn i ateb am eu hymddygiad. Os oes gennych unrhyw wybodaeth, neu os gwelwch unrhyw beth amheus, cysylltwch â’r heddlu, os gwlewch yn dda.

Yn ôl y Cynghorydd Leanne Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot a’r Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Gwarchod y Cyhoedd:

“Hoffem apelio at bawb sy’n caru defnyddio’r parc i’n helpu i adnabod y rhai sy’n ymgymryd â’r holl niweidio a lladrata. Eich cyfleuster chi ydyw, eich lle chi i ddianc rhag popeth a mynd am dro, neu ddim ond eistedd i ymlacio, felly hoffwn erfyn arnoch i’n helpu i gadw llygad ar beth sy’n digwydd yma.

“Hoffem apelio at y rhai sy’n gyfrifol i ddangos mwy o barch at asedau’r gymuned, ac ar i aelodau’r gymuned ddefnyddio’u dylanwad i helpu i ddod â’r fandaliaeth ddisynnwyr yma i ben.”

%d bloggers like this: