04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Parcio am ddim yng nghanol tref Merthyr ystod misoedd Mai a Mehefin

CAIFF siopau a busnesau canol tref Merthyr Tudful hwb yn ystod y gwanwyn a’r haf cynnar eleni gan y bydd parcio am ddim i gwsmeriaid dros y penwythnosau.

Caiff siopwyr eu hannog gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol a Chalon Fawr Ardal Gwella Busnes (AGB) Merthyr Tudful, i fanteisio ar barcio am ddim yn holl feysydd parcio canol y dref bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul drwy gydol misoedd Mai a Mehefin 2021.

“Yn dilyn trafodaethau gyda AGB, gwnaethom gytuno mai dyddiau Gwener a Sadwrn yw’r rhai prysuraf yng nghanol y dref o ran niferoedd o bobl sy’n dod yno,” dywedodd Pennaeth Adfywio a Thai y Cyngor, y Cynghorydd Chris Long.

“Gan fod manwerthwyr dianghenraid wedi cael caniatâd i ailagor bellach, rydym am ddefnyddio hyn fel cymhelliant i gael ein preswylwyr yn ôl yn siopa’n lleol a chael cyfle i ymlacio a mwynhau’r amrywiaeth helaeth ac amrywiol o siopau annibynnol a marchnadoedd.

“Gyda bod bwyta ac yfed yn yr awyr agored i fod i gael ei ganiatáu o ddiwedd Ebrill a bod lletygarwch tu fewn yn cael ei ystyried o 31 Mai, ein gobaith yw y bydd ein caffis, tafarndai a thai bwyta’n elwa hefyd.”

Dywedodd Elizabeth Bedford, Cydlynydd AGB ar gyfer Calon Fawr Merthyr:

“Mae parcio am ddim yn gwneud gwahaniaeth anferthol i bobl sy’n ymweld â phrysurdeb canol y dref.

“Mae’n golygu y gallan nhw ymlacio wrth siopa, cael pryd o fwyd neu goffi gan wybod nad oes angen cadw llygad ar y cloc.

“Mae Calon Fawr Merthyr a Chyngor Merthyr yn gwneud popeth y gallan nhw ei wneud i gael pobl leol ac ymwelwyr yn ôl i ganol y dref a bydd parcio am ddim yn helpu i roi hwb i’r economi leol ar yr union adeg y mae angen hynny arnom.”

%d bloggers like this: