03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Parciwch yn ystyriol – mae Iolo ar batrôl

DEWCH i gwrdd â Iolo Patrolo sydd ar ddyletswyddau diogelwch ffyrdd i helpu gadw ein plant yn ddiogel!

Mae’r cerbyd gorfodi â chamera ar daith ledled Sir Gaerfyrddin er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r broblem o barcio’n beryglus y tu allan i’n hysgolion.

Enillodd Osian Davies, disgybl blwyddyn dau o Ysgol Brynsierfel, gystadleuaeth i ysgolion i enwi’r car a derbyniodd daleb gwerth £50 a thystysgrif am ei ymdrech.

Yn ogystal â defnyddio teledu cylch cyfyng i adnabod rhifau cofrestru cerbydau er mwyn dal gyrwyr anystyriol sy’n parcio eu ceir yn anghyfreithlon, mae’r car hefyd wedi cael enw newydd.

Targedir parthau ‘cadwch yn glir’ y tu allan i ysgolion a llinellau melyn igam ogam, safleoedd bysiau, croesfannau i gerddwyr ac ardaloedd eraill sy’n peryglu bywydau plant.

Dim ond gyrru heibio sydd angen i’r car wneud a bydd gyrwyr a fydd yn cael eu dal yn parcio’n anghyfreithlon yn derbyn hysbysiad tâl cosb drwy’r post o £70 (os telir y ddirwy o fewn 21 diwrnod, caiff ei gostwng i £35).

Yn ogystal â chynnal cystadleuaeth i enwi’r car, gosododd y cyngor her i’r disgyblion sef dylunio baner. Kai Davies a enillodd, yntau hefyd yn dod o Ysgol Brynsierfel. Bu Kai, o flwyddyn pump, hefyd yn ffodus i dderbyn taleb gwerth £50 a thystysgrif. Bydd ei ddyluniad yn cael ei wireddu ar ffurf baner enfawr a’i osod y tu allan i’r ysgol er mwyn i bawb ei weld.

Bu Gari Gofal, mascot Diogelwch Ffyrdd a Hazel Evans a Philip Hughes, aelodau o fwrdd gweithredol y cyngor mewn gwasanaeth ysgol arbennig i gyhoeddi’r enillwyr a hynny’n ddiarwybod i’r buddugwyr.

Meddai’r Cynghorydd Evans: “Mae diogelwch plant y tu allan i ffiniau’r ysgol yn bryder mawr, er gwaethaf ein hymdrechion parhaus, yn enwedig y rheiny sy’n cerdded neu’n beicio i’r ysgol. Gobeithio y bydd y car â chamera yn annog pobl i feddwl yn fwy gofalus ynghylch lle maent yn parcio a helpu i greu amgylchedd mwy diogel ar gyfer pawb.

“Llongyfarchiadau i Osian a Kai, roedd dewis yr enillwyr yn benderfyniad anodd gan fod cymaint o syniadau gwych wedi’u creu gan ddisgyblion wrth feddwl am yr enw a dylunio’r faner.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes: “Bydd y car â chamera yn ein helpu i fynd i’r afael â’r gyrwyr hynny sy’n peryglu bywydau plant wrth iddynt barhau i barcio eu ceir mewn mannau sy’n ei gwneud yn anodd gweld traffig. Yn ogystal â bod yn beryglus, yn y rhan fwyaf o achosion mae hefyd yn anghyfreithlon, ac i’r rheiny a fydd yn torri’r gyfraith, byddant yn cael eu recordio ar gamera yn ogystal ag wynebu dirwy.”

Mae’r car â chamera eisoes ar waith i fynd i’r afael â phroblemau parcio yn y sir ac mae wedi profi cryn lwyddiant, gan gynnwys ym mannau cerdded Maes Nott a’r Clos Mawr yng Nghaerfyrddin wrth i nifer y ceir sy’n parcio yno ostwng o dipyn, sydd o ganlyniad yn gwella’r amgylchedd ar gyfer cerddwyr.

%d bloggers like this: