04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Partneriaid dod ynghyd i gefnogi’r ymdrech frechu ym Mhorthmadog

CAFODD dros mil o bobl gynnig brechiad Coronafeirws mewn sesiynau yng nghanolfannau hamdden y sir ar ddydd Gwener, Chwefror 5.

Roedd cydweithio effeithiol rhwng partneriaid i sicrhau fod y trefniadau yn hynod effeithiol wrth i bobl o’r grwpiau blaenoriaeth fynychu i gael eu brechiad cyntaf.

Yn y sesiwn ym Mhorthmadog a gafodd ei gynnal yng Nghanolfan Byw’n Iach Glaslyn, roedd staff y ganolfan yn cynorthwyo. Roedd hyn yn dilyn trefniadau o flaen llaw gan staff priffyrdd a thrafnidiaeth y Cyngor, ac wrth gwrs staff y bwrdd iechyd yn gweinyddu’r frechiad.

Un oedd yno yn gwirfoddoli oedd y Cynghorydd Nia Jeffreys, sy’n Aelod Cabinet gyda Chyngor Gwynedd:

“Roedd hi’n wych gweld yr ymdrech ar y cyd ym Mhorthmadog, roedd hi’n drefnus iawn a phawb mor falch o gael gwneud eu rhan.

“Mi fyddwn i’n hoffi diolch i staff y Cyngor a Byw’n Iach, a chyrff eraill fel yr heddlu, yn amlwg staff y Bwrdd Iechyd a gwirfoddolwyr lleol yn cynnwys criw o dîm Achub Mynydd Aberglaslyn.

“Er fod angen i bawb barhau i gadw at y rheolau ar ôl cael y brechiad, mi roedd hi’n amlwg o’r ymateb ym Mhorthmadog fod pobl yn teimlo yn obeithiol ac yn gweld goleuni ar ddiwedd bron i flwyddyn mor anodd.”

Roedd y brechu yn y canolfannau Byw’n Iach yn rhan o raglen ehangach brechu ar draws rhanbarth y gogledd sy’n cael ei chydlynu gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae mwy o wybodaeth am y brechu yn y gogledd ar gael yma ar wefan y Bwrdd Iechyd https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/

%d bloggers like this: