04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pecyn ariannu werth £14m i’r gymuned ar gyfer cynigion ysgol Rhydfelen

MAE Cabinet Rhondda Cynon Taf wedi cytuno ar becyn ariannu wedi’i ddiweddaru ar gyfer yr Ysgol Gynradd Gymraeg newydd arfaethedig yn Rhydfelen. Bydd hyn yn buddsoddi £14.183 miliwn yn y gymuned.

Amlinellodd adroddiad i’r Cabinet ddydd Llun, 28 Chwefror, sefyllfa ariannol y cynllun ar hyn o bryd yn dilyn diweddariad blaenorol ym mis Mehefin 2021. Ers hynny, mae Rhaglen Amlinellol Strategol wedi’i chyflwyno i Lywodraeth Cymru sy’n cynnwys ymrwymiad i gyflawni ysgol carbon sero-net. Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru hyn ym mis Medi 2021.

Byddai’r datblygiad ar safle presennol Ysgol Gynradd Heol y Celyn, a bydd yn croesawu disgyblion cyfrwng Cymraeg yr ysgol, yn ogystal â’r rhai sy’n mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ar hyn o bryd, o fis Medi 2024. Mae’n rhan o fuddsoddiad o £60 miliwn ar draws ardal ehangach Pontypridd, i’w gyflawni drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (hen raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif).

Byddai’r ysgol newydd sbon ar gyfer Rhydfelen yn cynnwys cyfleusterau addysg o’r radd flaenaf, Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd, cae chwarae newydd a man casglu/gollwng ar gyfer bysiau. Y bwriad yw i’r ysgol gyflawni Carbon Sero-Net, tra byddai’r adeiladau presennol yn cael eu dymchwel.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Cynhaliodd y Cyngor broses Ymgynghori Cyn Cyflwyno Cais ym mis Medi a mis Hydref 2021, er mwyn i aelodau’r gymuned gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau a chyfle i ddweud eu dweud. Cynhaliwyd sesiwn hefyd yng Nghanolfan y Gymuned, Rhydfelen, lle cafodd trigolion y cyfle i ofyn cwestiynau i swyddogion y Cyngor wyneb yn wyneb.

Rhoddodd adroddiad y Cabinet dydd Llun y newyddion diweddaraf ar gynnydd cyffredinol y prosiect. Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2021, a’r cam olaf i gael dyfarniad grant ffurfiol yw drwy Achos Busnes Llawn. Cyflwynwyd hyn, gan gynnwys y costau wedi’u diweddaru, i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2022. Mae disgwyl i’r achos gael ei gymeradwyo ym mis Mawrth 2022.

Mae cynlluniau cyfalaf Band B drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 65% o’r cyllid. Yn ôl y costau diweddaraf bydd y grant ar gyfer cynllun Rhydfelen yn £9.219 miliwn. Bydd cyfraniad y Cyngor yn £4.964 miliwn. Ddydd Llun, cytunodd y Cabinet hefyd i ariannu’r  cyfraniad y Cyngor trwy Fenthyca Darbodus, a bydd hyn yn cael ei argymell i’r Cyngor Llawn ar 9 Mawrth, 2022. Bydd yr ysgol newydd arfaethedig hefyd angen cymeradwyaeth cynllunio ffurfiol.

Meddai’r Cynghorydd Jill Bonetto, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:

“Ddydd Llun, cytunodd y Cabinet ar becyn ariannu diwygiedig ar gyfer yr Ysgol Gynradd Gymraeg newydd arfaethedig yn Rhydfelen – sydd bellach yn cynrychioli buddsoddiad o fwy na £14 miliwn mewn cyfleusterau addysg newydd sydd wrth galon y gymuned. Mae’r diweddariad yn golygu y gallai’r Cyngor bellach elwa ar fwy na £9.2 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, a adlewyrchwyd yn yr Achos Busnes Llawn a gyflwynwyd yn gynharach eleni.

“Mae’r cynigion yma’n rhan o fuddsoddiad ehangach o fwy na £60 miliwn. Cefnogir hyn gan y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a byddai’n cael ei ddarparu ar draws ardal ehangach Pontypridd erbyn mis Medi 2024. Mae’r buddsoddiad hefyd yn cynnwys prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd yn Ysgol Uwchradd Pontypridd, Ysgol Gyfun Bryncelynnog, ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen.

“Mae cytundeb y Cabinet ddydd Llun yn gam pwysig yn y broses ariannu ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydfelen. Disgwylir penderfyniad terfynol gan Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei gyfraniad yn fuan. Mae hyn yn brosiect cyffrous iawn i gyflwyno datblygiad Carbon Sero-Net ac amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf i ddisgyblion a staff – wrth i’r Cyngor geisio parhau â’i hanes da o wella ei ysgolion drwy fuddsoddiadau sylweddol.”

Ochr yn ochr â’r cynigion gwerth £60 miliwn ar draws ardal ehangach Pontypridd, mae’r Cyngor hefyd yn datblygu nifer o brosiectau buddsoddi mawr mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf. Mae cyfleusterau newydd yn cael eu darparu ar hyn o bryd ar safle Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Gyfun Rhydywaun – tra bod prosiectau Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn cael eu datblygu i ddarparu adeiladau ysgol gymunedol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi.

Hefyd, ym mis Hydref 2021, cyhoeddwyd rhagor o gynlluniau Band B sy’n defnyddio £85 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru – gan ddod â’r cyfanswm cyffredinol i £252 miliwn. Bydd y rhain yn sicrhau buddsoddiad ar gyfer Ysgol Llanhari, Ysgol Cwm Rhondda, Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, Ysgol Gynradd Pen-rhys, Ysgol Gynradd Maes-y-bryn ac Ysgol Gynradd Tonysguboriau, yn ogystal ag ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd i gymuned Glyn-coch ac ysgol arbennig newydd i’r Fwrdeistref Sirol.

%d bloggers like this: