04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pecyn cymorth ffurfiol Cyngor Merthyr yn dod i ben

MAE Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi y bydd cymorth sy’n cael ei ddarparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr ers 2019 yn dod i ben ddiwedd y mis yn sgil y cynnydd sydd wedi’i wneud gan y Cyngor, ond gan gydnabod bod gan yr awdurdod ragor o welliannau i’w gwneud.

Cytunwyd ar y pecyn cymorth statudol ym mis Mehefin 2019 ar ôl cais gan yr Arweinydd ar y pryd, ac mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Archwilio Cymru. Roedd yn cynnwys Bwrdd Gwella a Sicrwydd, penodi cynghorwyr allanol tymor byr ar gyfer meysydd penodol, a chymorth a hyfforddiant i aelodau a swyddogion. Diben y cymorth oedd sicrhau y gallai’r Cyngor ddarparu gwasanaethau o safon i bobl Merthyr Tudful, a chryfhau gallu’r Cyngor ei hun i wella a thrawsnewid.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Hoffwn ddiolch i’r Cyngor, y Bwrdd Gwella a Sicrwydd a’r cynghorwyr allanol am yr holl waith maen nhw wedi’i wneud a’r cynnydd sydd wedi bod ers 2019.

Mae dod â’r cymorth statudol ffurfiol i ben yn garreg filltir bwysig i’r Cyngor. Er nad dyma ddiwedd y daith tuag at welliant i Ferthyr, mae’r Cyngor bellach mewn sefyllfa well o lawer i ysgogi ei welliant ei hun.”

Meddai y Cynghorydd Lisa Mytton, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr:

“Wrth edrych yn ôl ar ein taith ers inni ofyn yn wreiddiol i Lywodraeth Cymru am gymorth, mae gwahaniaeth amlwg yn y math o sefydliad yr ydyn ni heddiw.

Serch hynny, nid dyma ddiwedd ein taith. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio ar gynlluniau i sicrhau ei gynaliadwyedd ar gyfer y tymor hwy ac rydyn ni’n bwriadu gweithio gydag arbenigwyr priodol i barhau â’r sgwrs hon.:

Dywedodd Steve Thomas, Cadeirydd y Bwrdd Gwella a Sicrwydd:

“Mae ein Tîm wedi bod ym Merthyr Tudful ers dros ddwy flynedd, gan weithio gyda’r Cyngor i wneud newidiadau sylweddol i sicrhau cynnydd mesuradwy yn ei drefniadau llywodraethu corfforaethol. Rydyn ni hefyd wedi gweithio’n helaeth ym meysydd allweddol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ac mae’r ddau wasanaeth mewn sefyllfa gryfach o lawer heddiw nag yn 2019. Mae trefn ar eu cyllid ac maen nhw wedi cael canlyniadau da o archwiliadau statudol. O ganlyniad, rydyn ni’n credu bod yr awdurdod nawr yn barod i gynnal ei welliant ei hun.”

%d bloggers like this: