09/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pecyn newydd o fesurau roi sylw i niferoedd uchel o ail gartrefi

MAE y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi cyhoeddi y camau nesaf mewn rhaglen o gamau gweithredu i helpu i greu cymunedau ffyniannus ac i gefnogi pobl i fforddio cartref, mewn cynhadledd i’r wasg ar y cyd heddiw (Dydd Llun 4 Gorffennaf).

Mae’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i fynd i’r afael â phroblem ail gartrefi sy’n effeithio ar lawer o gymunedau yng Nghymru.

Mae’r pecyn o fesurau sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cynnwys y canlynol:

Bydd tri dosbarth defnydd cynllunio newydd yn cael eu cyflwyno – prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr. Bydd awdurdodau cynllunio lleol yn gallu, lle mae ganddyn nhw dystiolaeth, gwneud newidiadau i’r system gynllunio a fydd yn gorfodi cael ganiatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o un dosbarth i’r llall. Fe fyddwn hefyd yn cyflwyno newidiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol i alluogi awdurdodau lleol i reoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned;

Cynlluniau i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, gan ei gwneud yn ofynnol cael trwydded i weithredu llety gwyliau tymor byr. Bydd hyn yn helpu i reoli’r system dai ac yn helpu i godi safonau ar draws y diwydiant twristiaeth;

Yn dilyn ymgynghoriad ynghylch amrywio’r dreth trafodiadau tir yn lleol mewn ardaloedd â niferoedd mawr o ail gartrefi, bydd gwaith yn dechrau heddiw (dydd Llun 4 Gorffennaf) gydag awdurdodau lleol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol fel eu bod yn gallu gofyn am gyfraddau treth trafodiadau tir uwch ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau i’w rhoi ar waith yn eu hardal leola.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno ystod o fesurau i fynd i’r afael â’r broblem ail gartrefi, gan gynnwys rhoi’r pŵer dewisol i gynghorau gynyddu premiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag ac mae wedi newid y rheolau ar gyfer llety gwyliau fel bod perchnogion a gweithredwyr yn gwneud cyfraniad teg at eu cymunedau lleol.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Heddiw, rydyn ni’n nodi’r camau nesaf mewn rhaglen radical i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fforddio byw yn eu cymuned leol – boed hynny drwy brynu neu rentu cartref.

Mae gennym ni uchelgais a rennir i Gymru fod yn genedl o gymunedau ffyniannus – gwlad lle nad oes raid i bobl adael i ddod o hyd i waith da sy’n rhoi boddhad a gwlad y mae pobl eisiau dod i ymweld â hi ac i fyw ynddi.

Mae twristiaeth yn hanfodol i’n heconomi ni ond nid yw cael gormod o dai haf ac ail gartrefi, sy’n wag am ran helaeth o’r flwyddyn, yn creu cymunedau lleol iach ac maent yn prisio pobl allan o’r farchnad dai leol.

Nid oes un ateb syml i’r problemau hyn. Rhaid i unrhyw gamau rydyn ni’n eu cymryd fod yn deg. Nid ydym eisiau creu unrhyw ganlyniadau anfwriadol, a allai ansefydlogi’r farchnad dai ehangach neu ei gwneud yn anos i bobl rentu neu brynu.”

Meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i ddefnyddio ystod o ysgogiadau cynllunio, trethiant ac eiddo i fynd i’r afael â phroblem ail gartrefi a chartrefi anfforddiadwy – ac i wneud hynny ar fyrder.

Bydd y pecyn o fesurau pwrpasol sydd wedi’u datblygu o ganlyniad i’r cydweithio adeiladol rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth yn y maes hwn, gyda’i gilydd, yn dechrau mynd i’r afael â’r anghyfiawnderau yn ein system dai ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ar draws ein cenedl.

Y nod yw rhoi’r ‘hawl i fyw adra’ i bawb, a’r gallu i fyw a gweithio yn y cymunedau maent wedi cael eu magu ynddynt.”

%d bloggers like this: